Gruff yn arwain Taith Prydain trwy Aber

Beiciwr proffesiynol lleol yn y dihangiad wrth rasio trwy ei ardal lleol 

Owain Schiavone
gan Owain Schiavone

Rhoddodd y beiciwr o Dal-y-bont fodd i fyw i gefnogwyr seiclo lleol heddiw wrth ganfod ei hun yn y grŵp oedd yn arwain Taith Prydain trwy fro ei febyd.

Ar ôl ymweld â Sir Gâr ddoe, roedd y daith wythnos yn gweld y beicwyr yn rasio o Aberaeron i ben y Gogarth yn Llandudno heddiw, gan deithio trwy Geredigion am y tro cyntaf.

Roedd y Cyngor wedi rhybuddio’r torfeydd i gadw’n glir o ddechrau’r ras yn Aberaeron oherwydd y pandemig, ond roedd digon o gefnogaeth ar y strydoedd yn Aberystwyth, ac ar ddringfa sylweddol gyntaf y diwrnod ar riw Penglais.

Wrth i gar radio’r ras ddringo Penglais ychydig cyn y beicwyr, gan gyhoeddi bod grŵp o chwech wedi ffurfio dihangiad ar y peloton, roedd gobeithion yn uchel o weld Gruff Lewis yn y grŵp hwnnw. A cafodd y dorf leol eu plesio’n fawr wrth weld y beiciwr lleol o dîm Ribble Weltide yng nghanol y dihangiad.

Gydag rhai o enwau mwyaf y byd fel Wout van Aert a Julian Alaphilippe yn y peloton, fydd dim disgwyl i’r dihangiad aros y glir nes Llandudno, ond heb amheuaeth bydd yn ddiwrnod i’w gofio i Gruff.