£10.9m i Aberystwyth yng nghyllideb 2021

Buddsoddiad i’r Hen Goleg a’r harbwr o Gronfa Codi’r Gwastad y Deyrnas Unedig.

Mererid
gan Mererid

Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys yn ystod cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw (27 Hydref 2021) gadarnhad y bydd Aberystwyth yn cael buddsoddiad o £10.9m ar gyfer prosiect yr Hen Goleg a’r Harbwr fel rhan o Gronfa Codi’r Gwastad y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth:

“Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw i’w groesawu’n fawr iawn ac yn newyddion da iawn i Aberystwyth a Cheredigion. Mae hefyd yn gam pwysig arall tuag at wireddu’r weledigaeth i drawsnewid yr Hen Goleg yn ganolfan ddiwylliannol fyrlymus sydd yn cynnig adnoddau rhagorol i’r Brifysgol, y gymuned leol ac ymwelwyr i’r ardal.”

Bydd y cyllid yn cyfrannu at wireddu cynlluniau Prifysgol Aberystwyth i rhoi bywyd newydd i’r Hen Goleg, yn ogystal â chreu Harbwr Byw ac Adnewyddu’r Promenâd yn Aberystwyth.

Harbwr Aberystwyth

Cyflwynwyd y cais gan Gyngor Sir Ceredigion yn ystod mis Mehefin 2021 yn dilyn mewnbwn gan randdeiliaid a phartneriaid lleol ac mae’n llunio rhan o weledigaeth Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer hybu’r economi.

Bydd y buddsoddiad yn gyfle i roi ddechrau ar raglen o fuddsoddiad i wella Aberystwyth fel lleoliad i fyw, ymweld, gweithio ac astudio.

Croesawodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y cyhoeddiad gan ddweud:

“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein heconomi leol a fydd yn helpu i wella dyheadau hirdymor Aberystwyth a chanol y dref trwy sicrhau buddsoddiad mewn seilwaith economaidd ac asedau a fydd yn helpu i lywio cyfleoedd am swyddi, sgiliau, buddsoddiad mewnol a hamdden. Rhaid hefyd diolch i’n holl bartneriaid a’r gymuned leol am eu holl ymdrech a’u cefnogaeth wrth sicrhau fod y cynnig yn gryf, ac yn y pendraw, yn llwyddiannus. Ochr yn ochr â datblygiadau posibl eraill yn y sir a ledled Canolbarth Cymru gyda Bargen Dwf Canolbarth Cymru, mae yna lawer yn digwydd yng Ngheredigion. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r Llywodraeth a rhanddeiliaid ar bob lefel i wireddu gwir botensial y buddsoddiad hwn.”

Mae’r cynllun yn Aberystwyth yn gynnig cynhwysfawr ar gyfer ardal sydd â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ond sydd wedi cael ei hanwybyddu am gyfnod rhy hir.