Dwbl dwbl i Lleucu

Lleucu o Dole, Bow Street yn cipio’r Fedal Ryddiaith

Mererid
gan Mererid

Fel yn Eisteddfod Sir Gar yn 2014, Lleucu Roberts yw enillydd y Fedal Ryddiaith Eisteddfod Amgen 2021, yn ogystal â chipio Medal Daniel Owen dydd Mawrth.

Hi oedd y cyntaf i ennill y ddwy brif wobr rhyddiaith yn yr un Eisteddfod – a bellach y cyntaf i ennill y ddwy wobr ddwywaith yn yr un flwyddyn.

Lleucu o Dole yn cipio Medal Daniel Owen 2021

Mererid

Brodor o Dole yn ennill prif wobr yn Eisteddfod Amgen 2021

Cardi o Lanfihangel Genau’r Glyn (neu Llandre o roi ei ffurf gwta) yw Lleucu, sy’n byw yn Rhostryfan ers bron i dri degawd bellach. Aeth i Ysgol Rhydypennau, Bow Street ac Ysgol Penweddig, Aberystwyth a chael ei hysbrydoli i ysgrifennu gan ei hathrawon Cymraeg, Alun Jones a Mair Evans. Graddiodd yn y Gymraeg o’r coleg ger y lli, a mynd yn ei blaen i ennill doethuriaeth am waith ar feirdd yr uchelwyr dan arweiniad ei thiwtor, y diweddar Bobi Jones. Bu am gyfnod yn olygydd yng ngwasg y Lolfa, ond bellach, mae’n gwneud ei bywoliaeth i raddau helaeth drwy gyfieithu, i gwmni Testun Cyf yn bennaf.

Dros y blynyddoedd bu’n ysgrifennu ar gyfer y radio a’r teledu, ac mae wedi gwneud gwaith sgriptio ar nifer o gyfresi drama teledu a radio. Mae’n awdur saith nofel a dwy gyfrol o straeon byrion i oedolion, ac wyth nofel i blant a phobl ifanc.

Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Pwllheli 1982, gwobr Tir na n-Og ddwy waith am ei nofelau i bobl ifanc, Annwyl Smotyn Bach a Stwff, a Gwobr Goffa Daniel Owen (am ei nofel Rhwng Edafedd) a’r Fedal Ryddiaith (am ei chyfrol o straeon byrion, Saith Oes Efa) yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014. Cipiodd wobr Barn y Bobl Golwg 360 am Saith Oes Efa fel rhan o wobrau Llyfr y Flwyddyn y 2015.

Mae ganddi hi a’i gŵr, Arwel ‘Pod’ Roberts, bedwar o blant, ac wyres. Mae’n cyfrif ei hun yn lwcus tu hwnt iddi gael cyd-swigenna â’i hwyres fach a aned fis Hydref diwethaf. Er na chafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu llawer yn ystod y cyfnod clo, mae’n dweud iddo ddyfnhau fwyfwy ei gwerthfawrogiad o gwmni ei theulu.

Gellir prynu Y Stori Orau o’ch siop lyfrau leol dydd Gwener, 6ed o Awst 2021, neu o wefan Gwales.

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, o fore Sadwrn 7 Awst ymlaen.