Ail i Drudwns Aber yn yr Eisteddfod Amgen

Llwyddiant i barti adrodd newydd o Ogledd Ceredigion

Mererid
gan Mererid

Camp criw newydd o Aberystwyth oedd dod yn ail yn y gystadleuaeth i barti llefaru llai na 16 mewn nifer yn yr Eisteddfod Amgen dydd Iau, 5ed o Awst 2021.

Parti newydd yw’r Drudwns oedd hwn wedi ei ffurfio i gystadlu yn Eisteddfod Tregaron, ond wedi parhau i ddatblygu lle roeddent yn gallu drwy’r cyfnod clo.

Recordio yn adeilad hyfryd y Ymddiriedolaeth Pantyfedwen ar Stryd y Farchnad.

Drudwns (mwy nag un drudwy/ drudwyon) wrth gwrs yw’r adar sydd yn ymgasglu o amgylch y pier gyda’r hwyr. Starlings yn Saesneg.

Llongyfarchiadau hefyd i Enfys Hatcher Davies a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth Gwêd di a D’eud di dydd Mawrth, 3ydd o Awst 2021.

Dwi’n siwr bod enillwyr eraill, ond dyw ddim yn hawdd cadw llygad pwy sydd yn dod o ble?

Ydych chi yn gwybod am enillwyr eraill?