gan
Cerys Burton
Dydd Sadwrn, 12 Mehefin 2021
11.00am – 3.00pm
Dyma gyfle arbennig i wahodd ein cymunedau i’n helpu ni i gofrestru’r bywyd gwyllt ym mynwentydd ein heglwysi. Mae hwn yn weithgarwch sy’n gwerthfawrogi’r amgylchedd, a gall greu cyswllt â phobl tu hwnt i’r eglwys drwy gyfrwng pwnc sydd o ddiddordeb mawr i lawer.
Mae croeso i bawb ddod draw i Eglwys Ysbyty Cynfyn, Ponterwyd, dydd Sadwrn, 12 Mehefin, i gymryd rhan yn y cynllun ‘Eglwysi’n Cyfrif Natur’. Os oes gennych lyfr ‘Adnabod Natur’, dewch ag ef gyda chi. Ac mi fydd y botanegydd Arthur Chater wrth law i roi cymorth i chi. Bydd tudalennau cofnodi ar gael ar y diwrnod ond peidiwch ag anghofio dod â phensel gyda chi!
“Paned yn yr awyr agored i bawb”
Byddwn yn glynu at reolau/canllawiau Cofid-19.