Mae tîm pêl-droed Llanilar wedi cael dechrau gwych i’w tymor newydd gyda dydd Sadwrn (11eg o Fedi) yn gweld y tîm cyntaf yn ennill o 8 i ddim yn erbyn Padarn United, a’r ail dîm yn ennill o 6-1 yn erbyn eilyddion Crymych.
Y sgorwyr i’r tîm cyntaf oedd Sion Evans (2 gol), Dan John, Osian Simpson-Jones, Dylan Evans, Ioan Jones, Rhydian Hopkins a Rhydian Ap.
Yr wythnos diwethaf (4ydd o Fedi), enillodd Llanilar 3 i 0 yn erbyn tîm y Bont (Sion Evans, Jaime Stewart ac Osian Simpson-Jones yn sgorio).
Mae tîm Padarn wedi cael dechrau gwael, yn colli 2-3 mewn gem agos gyda Borth ar y 4ydd o Fedi, ond yn cael crasfa gan Lanilar gan golli 0-8 ar y 11eg o Fedi. Mae blwyddyn anodd o golli diddordeb chwaraewyr, mae Padarn yn chwilio am chwaraewyr newydd sydd â diddordeb mewn chwarae.
Cyfartal oedd y gêm rhwng Borth ac Aberdyfi (1-1) sydd yn rhoi Borth yn ail yn y gynghrair.
Ar ôl dwy gêm, dyma dabl y Gynghrair: –
Tîm Chwarae Pwyntiau
Llanilar 2 6
Borth 2 4
Corris 1 3
Aberdyfi 1 1
Myfyrwyr 0 0
Bont 1 0
Tregaron 1 0
Padarn 2 0