Gen i gof mai Cyngor Llyfrau Cymraeg oedd enw’r corff adeg ei enedigaeth. Bu farw hwnnw cyn cyrraedd ei drigain.
Beth ddigwyddodd yn 1961? Ar yr wythnos yma, ganed Gareth James a Margaret Evans, dau o staff Cyngor Llyfrau Cymru – ar yr un wythnos a sefydlu’r Cyngor Llyfrau.
Mae Gareth yn byw yn Aberystwyth, tra mae Margaret yn byw yn y Bow Street. Nid nhw yw’r staff sydd wedi bod gyda’r Cyngor Llyfrau fodd bynnag, gan fod Geraint Williams (hefyd o Bow Street) wedi dathlu 44 mlynedd o weithio gyda Chyngor, a’i wraig Eiry, sydd yn gweithio yn y Cyngor ers 39 mlynedd. Diolch iddynt i gyd am eu hoes o wasanaeth. Diolch i Gaenor Evans am wneud y gacen.
Drwy’r wythnos yma, mae’r Cyngor Llyfrau yn dathlu drwy: –
- Dydd Llun – Cyhoeddi O Hedyn i Ddalen: Dathlu’r Cyngor Llyfrau yn 60
- Dydd Mawrth – Seremoni Wobrwyo Gwobr Mary Vaughan Jones
- Dydd Mercher – Lansio’r strategaeth
- Dydd Iau – atgofion o’r gorffennol ar y cyfryngau cymdeithasol
- Dydd Gwener -cyhoeddi fideo yn edrych ar waith y Cyngor Llyfrau
Beth am ymuno yn y dathlu ar y cyfryngau cymdeithasol?
Yn y cyfamser, dyma brif neges y strategaeth: –
Cymru: Cenedl o Ddarllenwyr
Am 60 mlynedd, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi ymroi i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a hybu darllen er pleser.
A ninnau’n nodi’n pen-blwydd, rydym yn falch iawn o rannu’n strategaeth newydd sy’n datgan ein huchelgeisiau a’n gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Mae’r strategaeth yn amlinellu sut y byddwn yn parhau â’n cenhadaeth o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yng nghyd-destun yr adferiad yn dilyn Covid, gan gyfrannu i raglen lywodraethu a Datganiad Llesiant Llywodraeth Cymru a chefnogi’r diwydiant wrth iddo ymateb i gyfleoedd a heriau’r dyfodol.