Mae Clwb Pêl-droed Bow Street yn prysur baratoi at y tymor newydd ar ôl gwneud nifer o benodiadau allweddol. Daw Llŷr Hughes yn rheolwr y tîm 1af yng Nghynghrair Ardal yr Haen 3 newydd, a bydd y cyn-reolwr Huw Bates yn dychwelyd i arwain yr ail dîm yng Nghynghrair Cenedlaethol Cymru, Adran yr Ail Dimau, gyda chefnogaeth Pennaeth Datblygu Ieuenctid y Clwb, Amlyn Ifans. Yn ogystal â thynnu ar ei brofiad o reoli clwb y Bermo a’i yrfa chwarae lwyddiannus, gan gynnwys cyfnod gyda thîm Aberystwyth, bydd Hughes yn cydweithio â’r hen law profiadol Warren Sedgewick.
‘Dwi’n falch iawn o gael fy mhenodi ar ôl mwynhau’r tymhorau diwetha yn chwarae o dan reolaeth Barry Williams, a wnaeth yn wych gyda grŵp lleol o chwaraewyr, gan ennill Cwpan Cynghrair Spar Canolbarth Cymru yn 2018,’ meddai Llŷr. ‘Bydd yn her i lenwi’r bwlch y mae Barry yn ei adael, ond mae’n gyffrous arwain y clwb arbennig hwn i’r gynghrair Haen 3 newydd ar ôl amser mor hir heb bêl-droed, a dwi wedi gwirioni fod Sedgewick yn ymuno â’r achos. Mae pawb yn awyddus i ddod yn ôl i chwarae ac ymweld â meysydd newydd – mae’r bechgyn yn ysu am gael cychwyn. Dwi’n falch hefyd fod Huw ac Amlyn wedi’u penodi i reoli’r Ail Dîm – bydd yn gyfle i’n chwaraewyr ifanc ddatblygu o fewn y clwb.’
Ychwanegodd Huw Bates, ‘Mae’n grêt bod yn ôl ar ôl treulio peth amser i ffwrdd ond does dim amheuaeth bod CP Bow Street wedi parhau i fuddsoddi yn strwythur a phersonél y clwb, ac felly mae ei seiliau’n gadarn. Fy nod yw gwneud y mwyaf o’r talent a’r potensial sy’n blodeuo yn ein timau iau a’n hieuenctid, a’u cymysgu â rhai o’r hen bennau profiadol er mwyn datblygu chwaraewyr hŷn y dyfodol. Mae Adran yr Ail Dimau’n edrych yn ddiddorol, a gyda chymwysterau hyfforddi a chefnogaeth Amlyn credaf y gallwn wneud yn dda.’
Cadeirydd y Clwb yn gynrychiolydd ar Gyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Llongyfarchiadau calonnog i gadeirydd y clwb, Wyn Lewis, ar gael ei ethol yn ddiweddar i gynrychioli Ardal Canolbarth Cymru ar Gyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru am y ddwy flynedd nesaf, gan ymuno â Graham Evans a Will Lloyd Williams o’r rhanbarth.
‘Mae’n fraint enfawr cael fy ethol i gynrychioli holl glybiau’r ardal ar bob lefel, yn enwedig y clybiau llawr gwlad sy’n cynnal enaid pêl-droed yng Nghanolbarth Cymru, ac edrychaf ymlaen at ychwanegu at lais y rhanbarth wrth fwrdd uchaf pêl-droed yng Nghymru,’ meddai Wyn. ‘Dwi hefyd am ddiolch i’n timau rheoli blaenorol sydd wedi gwasanaethu’r clwb ag anrhydedd, sef Barry Williams, Rhodri Jones a Leighton Reynolds, a fu’n rhagori yn eu gwasanaeth am sawl tymor. Mae hi wedi bod yn amser hir heb bêl-droed yn y clwb, ac y mae pawb ohonom yn edrych ymlaen at weld y Piod yn “hedfan” unwaith eto ar Gae Piod.’