Cyffro’r Siarter Iaith yng Ngheredigion

#siarteriaith

Anwen Eleri Bowen
gan Anwen Eleri Bowen

Mae’r Siarter Iaith yn parhau i ysgogi ac annog Cymreictod ymhlith disgyblion ysgol o bob oed ar ddechrau tymor ysgol newydd.

Nod y Siarter yw ysbrydoli ein disgyblion a rhoi hyder iddynt ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau. Mae amseriad ail lansio’r siarter yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru a dyhead Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Allwn ni ddim diystyru rhan ysgolion a phob un ohonom wrth gyrraedd y nod hwn.

Symbol pwerus i ni yng Ngheredigion yw Ceri Siarad. Barcud coch yw Ceri ac mae hanes yr aderyn yn symbolaidd. Bu bron i ni golli’r aderyn urddasol o’n gwlad ar un adeg, ond drwy brosiectau cadwriaethol, amodau ffafriol a llafur cariad, fe dyfodd poblogaeth y barcutiaid o ddau bâr i dros fil o barau. Dyma ein nod gyda’r Gymraeg. Rhoi’r amodau cywir iddi ffynnu, rhoi balchder i’n disgyblion a’n cymunedau wrth ei defnyddio ac ymateb i’r her bersonol i bob un ohonom ddefnyddio a hybu’r Gymraeg gyda hyder a balchder.

Yr hyn sydd ar waith

Yn ystod y flwyddyn nesaf mae nifer o gynlluniau i hyrwyddo’r Gymraeg yn ein hysgolion a’r gymuned ehangach ar waith. Mae prosiect Den y Dreigiau ar y gweill, Dragon’s Den Cymraeg – lle mae cyfle i ysgolion feddwl am gynllun/prosiect penodol i hyrwyddo’r Gymraeg ymhlith y disgyblion.

Cafodd cynllun Cerdyn Teyrngarwch – siopa yn Gymraeg ei lansio ddydd Gwener, 24 Medi 2021. Ewch i dudalen Facebook Cardi Iaith am fwy o wybodaeth.

Hefyd cynhaliwyd cynhadledd rithiol ddydd Gwener, 24 Medi 2021, ar gyfer cydlynwyr a chyngor Cymreictod ysgolion Ceredigion. Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan Owain Williams o Stwnsh S4C, Sara Pennant o Gymdeithas Pêl-droed Cymru a Marc Griffiths o gwmni StiwdioBox a fu’n annog ysgolion i greu podlediad Cymraeg am eu milltir sgwâr.

Dywedodd Marc Griffiths: “Pleser pur oedd cael bod yn rhan o’r diwrnod ar gyfer cynrychiolwyr ysgolion Ceredigion gan eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg a chroesawu datblygiadau technolegol yr un pryd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion: “Mae’r Siarter Iaith yn gwbl greiddiol fel modd i annog a chodi proffil y Gymraeg mewn addysg. Mae unrhyw iaith fyw yn newid yn gyson. Nid iaith ystafell ddosbarth yn unig ydyw, ond iaith y cae chwarae, iaith technoleg, iaith mwynhau, iaith diwylliant. Mae bod yn ddwyieithog yn sgìl sy’n agor nifer o ddrysau.”

I ddilyn holl gyffro’r Siarter Iaith, ewch i dudalen Cardi-iaith ar Facebook.