Sut, meddwch chi, mae cwpl lleol wedi “ymddeol”, yn cynhyrchu Olew Olewydd Dihalog? Mae Helen a Selwyn Williams yn gwneud union hynny, a dyma’i hanes.
Dechreuodd y fenter trwy hap a damwain mwy neu lai. Ar ôl ymddeoliad Selwyn, dechreuodd y ddau chwilio am rywle heulog dramor. “Gyda’r ddau ohonom yn dod yn wreiddiol o gefn gwlad – (Selwyn o Ben Llyn a finnau o Lanberis) – doedd y syniad o fflat ddim yn apelio”, meddai Helen. Felly aethon ati i dreulio amser yn Sbaen, ac yn y diwedd prynu fferm 9 acer yng Nghatalonia.
Roedd y bwthyn yn adfail, a’r coed olewydd a’r tir wedi eu hesgeuluso er blynyddoedd maith. Dim cyflenwad trydan, dim cyflenwad dwr heblaw’r casgliad o law oddi ar y to. Ond roedd yr olygfa yn fendigedig – yn edrych lawr ar Fôr Y Canoldir, a dros gaeau reis Delta’r afon Ebre. A mynyddoedd Coll de L’Alba wrth gefn. Nefoedd ar y ddaear.
Eglurodd Selwyn: “Mae nifer o’r ffermydd olewydd ar y tir uchel yn wag erbyn hyn. Yn syml, mae’n amhosib i fecaneiddio gan fod y tir mewn terasau, a’r llethrau o un teras i’r llall yn rhy serth a chul i unrhyw dractor. Mae teuluoedd lleol wedi symud i’r tir gwastad, lle mae’n haws trin y tir.
Aeth y ddau ati i adnewyddu’r tŷ gan gyflogi adeiladwr lleol. Erbyn hyn mae’r bwthyn bach yn glud a chyfforddus, gyda chyflenwad trydan solar. Wedyn dechreuon ar drin y tir a’r coed. Mae rhai ohonynt yn gannoedd o flynyddoedd oed, a’r gwaith yn brosiect adfer i ddod â’r hen goed mawreddog hyn yn ôl i’w llawn ogoniant.
Ar ôl wyth mlynedd mae’r holl waith caled bellach yn dechrau dwyn ffrwyth. Erbyn hyn, gydag arbenigedd ffrind a chymydog, mae Selwyn a Helen yn gyfarwydd iawn â beth sydd yn gwneud olew olewydd o’r safon uchaf.
Mae popeth yn cael ei wneud gyda llaw: hel yr olewydd i’r rhwydau, eu casglu a’u didoli – gan wrthod unrhyw ffrwyth sydd wedi’u difrodi. Mae’r cynnyrch yn mynd yn syth oddi ar y coed i’r felin pob pnawn, lle mae’n cael eu gwasgu mewn melin fodern ar dymheredd o 24 gradd Celsius. Hyn i atal ei ocsideiddio a thrwy hynny cadw’r rhinweddau antiseptig, a’r blas godidog.
“Mae’r gerdd draddodiadol “Mae gen i dipyn o dy bach twt” yn arbennig o berthnasol i leoliad ein fferm felly dyna sut y dewiswyd yr enw”, eglurodd Helen.
Wedyn roedd y sialens o gael hyd i derm addas ar gyfer “Extra-Virgin Olive Oil”. Mae term safonol ar gyfer “Virgin Olive Oil” ond nid “Extra-Virgin”. Ymgynghorwyd a fforwm iaith, gan sbarduno trafodaeth ddifyr, ac ar ôl i Selwyn egluro’r broses o gynhyrchu’r olew, y farn oedd mai’r term ‘dihalog’ oedd y mwyaf addas.
Mae’r cwpl yn hynod o falch o safon eu cynnyrch, a hefyd o fod wedi bathu term Cymraeg hollol newydd!
Mae olew olewydd dihalog Tŷ Bach Twt bellach ar gael i’w brynu’n lleol, ac mae eisoes yn creu llawer o ddiddordeb.
Dychwelodd y cwpl i Gymru ym mis Tachwedd gan yrru’r holl ffordd adref a dod â’r olew gyda nhw.
“Roeddem yn teimlo mai hwn oedd yr opsiwn mwyaf diogel o dan yr amgylchiadau sydd ohoni: dim ond y ddau ohonom yn y car, a llwyth o olew olewydd. Dau stop dros nos yn Ffrainc, lle gwelsom ddim ond derbynnydd y gwesty y tu ôl i sgrin persbecs a chymryd ein prydau bwyd yn ein hystafell; ac yna aros yn ein car yn ystod taith Eurotunnel. A 14 diwrnod o gwarantîn wedyn”.
Gellir cysylltu a Helen a Selwyn trwy ebost TyBachTwtCatalonia@gmail.com, neu ar eu tudalen Facebook: @TyBachTwtCatalonia