YN FYW: Clera Ceredigion

Dyma blog byw o daith Arad Goch yn cyflwyno eich straeon chi yn eich ardal chi 

Arad Goch
gan Arad Goch

Mae CLERA Ceredigion wedi cychwyn ac ar y ffordd i bentrefi a threfi o amgylch y sir. Cadwch lygaid allan yn eich ardal chi i weld os fydd y cymeriadau yn mynd heibio ?

Ar y wefan hon fe fydd y cyfle gyda chi i ymateb a cynnig eich straeon chi o’ch ardal chi.

Dilynnwch y blog am y pum wythnos nesaf i weld a fydd Arad Goch yn dod i chi.

11:23

DIOLCH TREGARON

Perfformiad gwych yn Nhregaron bore ‘ma!

Diolch i bawb a ddaeth i wylio! Dilynwch ni i Lanbedr Pont Steffan a chofiwch anfon eich lluniau draw i ni!

09:24

WYTHNOS ARALL!

Ydych chi’n dod i weld Clera heddi?

Byddwn ni yn Nhregaron am 10:30y.b a Llanbedr Pont Steffan am 12:30y.h! ?

Os nad ydych chi’n dod, ewch i’n gwefan i weld ble allwch chi weld Clera wythnos hyn!??‍?

11:14

DIM HEDDI ?

Yn anffodus, does dim Clera heddi unwaith eto ?

Diolch i bawb a ddaeth i wylio ni yn Felinfach, Pontgarreg a Chei Newydd!

Fe fyddwn ni nôl fory yn Nhregaron a Llanbedr Pont Steffan ?

15:53

CEI NEWYDD

Dilynnwch ni yng Ngei Newydd tra bod ni’n teithio a pherfformio ar hyd y strydoedd o 4-5y.h!

10:48

FELINFACH!

Dewch lawr i Felinfach i weld Clera nes 11!

10:47

Diolch Llechryd!

Er y gwyro, llwyddon ni berfformio Clera i trigolion Llechryd! Diolch i bawb a ddaeth i wylio a dyma chydig o luniau o’r daith!  

18:52

Caredigrwydd Cenarth!

Diolch i bawb am ddod i wylio ni yng Nghenarth heddi!

Mae’n mor braf fod nôl yn perfformio a theithio! Ymlaen i Llechryd! ?

#CleraCeredigion

11:25

Amser Ailgychwyn!

Ar ôl cael cwpwl o ddiwrnodau i ffwrdd mae’n amser i fynd ar daith unwaith eto! ?

Ymunwch â ni heddi yng Nghenarth am 4 ac yn Llechryd am 6. 

Cofiwch anfon eich lluniau atom ni i rannu ar ein cyfryngau! ?

#CleraCeredigion

14:14

MWY O LUNIAU! ?

Dyma mwy o luniau o’n perfformiadau diweddaraf yn Aberaeron a Ciliau Aeron.

Os oes lluniau neu clipiau gyda chi o’n perfformiadau byddwn ni’n falch iawn o’i gweld!

10:28

DIM CLERA ?

Diolch i bawb a ddaeth i wylio ni yn Aberaeron ddoe! Gobeithio naethoch chi lwyddo osgoi’r glaw!

Yn anffodus does dim perfformiad o Clera heddi nac yfory.

Fe allwch weld Clera nesaf Dydd Gwener yng Nghenarth am 4y.h! ?