Mae CLERA Ceredigion wedi cychwyn ac ar y ffordd i bentrefi a threfi o amgylch y sir. Cadwch lygaid allan yn eich ardal chi i weld os fydd y cymeriadau yn mynd heibio ?
Ar y wefan hon fe fydd y cyfle gyda chi i ymateb a cynnig eich straeon chi o’ch ardal chi.
Dilynnwch y blog am y pum wythnos nesaf i weld a fydd Arad Goch yn dod i chi.
DYMA’R DIWEDD
Diolch i bawb yn Llanybydder a Chastell Newydd Emlyn ddoe am y croeso!
Ymunwch â ni ar DDIWRNOD OLAF CLERA! Gydag Aberaeron am 1y.h, Rhydypennau am 4y.h a Thalybont am 5y.h, gobeithio fe fydd y glas yn gadael i ni eich diddanu am un tro arall!
DIM OND CHYDIG SY’ AR ÔL!
Cofiwch ymuno â ni yfory am 1y.h yn Llanybydder a 4y.h yng Nghastell Newydd Emlyn!
Dim ond ychydig o gyfleoedd sydd ar ôl i weld y cynhyrchiad felly dewch yn llu!?
LLUNIAU CLERA
Nes i chi weld Clera unwaith eto, ewch i wefan Arad Goch a BroAber360 i ddilyn y daith o’r cychwyn a gweld lluniau o’ch ardaloedd chi!
WYTHNOS OLAF CLERA
Rydym wedi cyrraedd yr Wythnos olaf o’r cynhyrchiad gwych yma!
Mae dal cyfle i chi weld y cynhyrchiad Dydd Iau yn Llanybydder a Chastell Newydd Emlyn. Wedyn ar Ddydd Gwener yn Aberaeron, Rhydypennau a Thalybont!
Dim Clera ?
Yn anffodus does na ddim Clera am weddill yr wythnos ?
Ond ymunwch a ni am wythnos olaf y daith dydd Mawrth nesaf yn Aberystwyth!
MWY O LUNIAU!
A nawr mae’n amser i weld lluniau o Bontrhydfendigaid! ?
LLUNIAU HYN YN ?
Does dim byd tebyg ar edrych ar y lluniau anhygoel hyn!
Diolch i bawb yn Llanbadarn Fawr a Phontrhydfendigaid am ddod i weld ni ddoe!
Dyma lluniau o’ch cymunedau brydferth. Yn gyntaf…… Llanbadarn Fawr! ??
DIWRNOD OLAF…… AM NAWR!?
Dewch lawr i Landysul am 1y.h a Threfechan am 5:30y.h heddi i weld Clera! ?
Heddi yw’r diwrnod olaf am yr wythnos hon ond fe fydd dal cyfle gyda chi i weld perfformiad wythnos nesaf ☺️
DIOLCH LLANBADARN FAWR!
Diolch i bawb a ddaeth i weld y ddau berfformiad yn Llanbadarn Fawr heddi.
Dal cyfle i weld Clera ym Mhontrhydfendigaid heno am 6:30!
Mae gweld lluniau fel hyn yn dangos cefnogaeth gwych o gymunedau Ceredigion!
Diolch i bobl Llanarth, Llandysul a Phontsian am ddod i weld ni ddoe!