YN FYW: Clera Ceredigion

Dyma blog byw o daith Arad Goch yn cyflwyno eich straeon chi yn eich ardal chi 

Arad Goch
gan Arad Goch

Mae CLERA Ceredigion wedi cychwyn ac ar y ffordd i bentrefi a threfi o amgylch y sir. Cadwch lygaid allan yn eich ardal chi i weld os fydd y cymeriadau yn mynd heibio ?

Ar y wefan hon fe fydd y cyfle gyda chi i ymateb a cynnig eich straeon chi o’ch ardal chi.

Dilynnwch y blog am y pum wythnos nesaf i weld a fydd Arad Goch yn dod i chi.

10:28

DIM CLERA ?

Diolch i bawb a ddaeth i wylio ni yn Aberaeron ddoe! Gobeithio naethoch chi lwyddo osgoi’r glaw!

Yn anffodus does dim perfformiad o Clera heddi nac yfory.

Fe allwch weld Clera nesaf Dydd Gwener yng Nghenarth am 4y.h! ?

13:31

Dau Berfformiad!

Oherwydd y tywydd garw sy’n disgwyl dod yn hwyrach heno, fe fydd perfformiadau Aberaeron yn cael ei gyfuno!

Felly byddwn ni’n perfformio yn Aberaeron o 2:30 – 5:30y.h. 

Dewch i wylio cyn i’r glaw cyrraedd! ☔️

11:37

Perfformiad Arall!

Diolch i bobl Waunfawr neithiwr am gefnogi!

Nawr mae’n amser i berfformio yng Nghiliau Aeron am 12:30! ?

15:34

DIOLCH BORTH!

Diolch Borth am fod yn le hyfryd i berfformio â thrigoelion mor hael!

Efallai byddwn ni nôl! Ond mae’n amser symud ymlaen i Waunfawr am 5!

13:05

Sbesial!

Mae rhywbeth sbesial iawn am y clip yma!

https://twitter.com/YsgolGymraeg3/status/1412016667106885632

11:14

RHAGOR I DDOD!

Pwy sy’n barod i wylio Clera heddi?! ?‍♂️

Byddwn ni yn Borth am 5 a Waunfawr am 7! 

Peidiwch colli allan! 

18:10

YMUNWCH YFORY!

Diolch i bawb a ddaeth i’n gweld ni ar promenade Aberystwyth prynhawn ’ma.

Diwrnod arall o berfformio i fynd am wythnos hyn, felly dewch i Aberaeron am 11, Rhydypennau am 4 a Thalybont am 5!

16:07

DIOLCH!

Diolch Penparcau!

Gobeithio daethon ni peth llawenydd i’ch brynhawn Dydd Gwener. 

Nesaf fe fyddwn ni crwydro ar hyd promenade Aberystwyth am 4:30!

15:14

Ydych chi weld gweld Clera?!

Anfonnwch eich lluniau neu clipiau fideo er mwyn i ni rhannu ar ein cyfryngau! ?

12:22

EDRYCH YMLAEN!

Da ni nôl ym Mhenparcau am 2!

Ymwnwch â’r perfformwyr ar hyd y strydoedd a’i gwylio’n canu a dawnsio caneuon Cymraeg!