“Mae rhywbeth yn dod i’ch ardal chi, rhywbeth gallwch ond ei weld unwaith. Yn teithio o bentref i bentref, o dref i dref er mwyn dathlu pobl, diwylliant a thirwedd Ceredigion”.
Mae ynysrwydd cefn gwlad wedi gwaethygu oherwydd COVID19 gan arwain weithiau at orddibyniaeth ar gyfryngau torfol amhersonol. Oherwydd hyn, a gan nad ydym yn gallu perfformio mewn theatrau eto, mae Cwmni Theatr Arad Goch wrthi yn creu cyfres o berfformiadau bach awyr-agored fydd yn digwydd ar draws y sir.
Drwy ddefnyddio chwedlau a hanesion lleol ochr yn ochr â storïau diweddar a newyddion cyfredol byddwn yn cydnabod a dathlu ein hetifeddiaeth yn ogystal â chryfderau a digwyddiadau ein cymuned fodern. Mae gwledigrwydd y sir yn bwysig nid yn unig i ni fel cwmni, ond i holl drigolion y sir sydd wedi cael eu heffeithio gan COVID19.
Theatr ‘gudd’ neu ‘pop-up’ fydd hon; o’r mynyddoedd i’r môr fe fyddwn yn dangos pwysigrwydd hanes, diwylliant a chymunedau’r sir drwy ddod ag eiliadau o brydferthwch a diddanwch er mwyn ceisio gwrthwneud rhai o elfennau ynysrwydd a achosir gan unigrwydd COVID19. Gan ddefnyddio storïau, cerddoriaeth, caneuon a dawnsio a gan gydweithio gyda’r bardd Eurig Salisbury a’r coreograffydd Anna ap Robert mae’r actorion yn creu a pherfformio darnau fydd yn unigryw i gymunedau Ceredigion.
Yn ôl Jeremy Turner, y Cyfarwyddwr Artistig “Mae hwn yn gyfle gwych i feddwl mewn ffyrdd gwahanol am sut i greu a pherfformio ac i ailddarganfod hanfodion theatr yn ei ffurf fwyaf amrwd – ychydig o berfformwyr, ychydig o gynulleidfa a dim technoleg. Fe fydd yn her i’r actorion gan y bydd pob diwrnod a phob perfformiad yn wahanol, gyda lleoliadau amrywiol pe bai ar stondin llaeth, mainc ar groesffordd lle bydd pobl yn ymgynnull am sgwrs, patshyn o laswellt o flaen tafarn neu swyddfa bost i gyfnewid stori – ac wrth gwrs bydd angen ystyried y cŵn, y gwylanod a’r glaw yn ogystal â chyfyngiadau a diogelwch Covid. Oherwydd cyfyngiadau COVID fyddwn ni ddim yn ceisio denu tyrfaoedd enfawr a byddwn yn hapus i berfformio i ddau berson ar ochr y stryd neu dros wal yr ardd”.
Cychwynnir y daith ar yr 25ain o Fehefin. Gan na fyddwn yn cyhoeddi ble na phryd yn union byddwn yn ymweld fe fydd yn rhaid i’r cyhoedd wylio ein cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn rhoi awgrymiadau yn ddyddiol o’n lleoliadau nesaf. Hefyd gallwch ddilyn y daith ar ein gwefan lle byddwn yn rhyddhau lluniau o’r digwyddiadau, o dirwedd Ceredigion ac o rai o’r bobl byddwn yn cwrdd â nhw – yn ogystal â diweddaru lleoliadau’r daith. Ac mae modd i bobl ein gwahodd i berfformio yn eu pentref nhw neu i ddod i berfformio i ddathlu achlysur arbennig.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Cynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Gyda diolch hefyd i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogaeth i’r prosiect hwn.