Edrych ymlaen at ail-ddechrau chwarae pêl-droed mae tîm pêl-droed Padarn United. Mae’r tîm sydd yn dathlu 125 mlynedd o chwarae pêl-droed di-dor yn chwarae ar gaeau Llety Gwyn, rhwng y ddau drac reilffordd yn Llanbadarn.
Yn eu cyfarfod heno, penodwyd Chris Carton, sydd yn byw yn Waunfawr, fel rheolwr y tîm cyntaf a bydd Matthew Savage yn parhau fel rheolwr yr ail dîm.
Adroddwyd yn gynharach yn y flwyddyn ar y gwaith gwirfoddol a wnaethpwyd i’r ystafelloedd newid: –
Popeth yn “newid” i Dîm Padarn United
O ganlyniad i newid yn strwythur cynghrair Cambrian Tyres, o ddwy adran i un adran, mae’r ail dîm wedi symud i gynghrair Costcutter, sydd yn chwarae yn ne’r sir. Nid oedd modd i ddau dîm chwarae yn yr un adran, ac roedd y timau yn barod i ail-ddechrau ym mis Medi. Cafwyd dathliad bychan iawn i wobrwyo chwaraewyr, ond yn yr awyr agored ac yn dilyn canllawiau oedd mewn grym yn yr amser hwnnw.
Er y cafwyd ychydig o gemau cyfeillgar yn yr Hydref, diddymwyd chwarae, ac ni ail-ddechreuodd y gynghrair.
Mae’r tîm yn hynod o ddiolchgar i Gyngor Cymuned Llanbadarn (sydd yn eu cefnogi yn flynyddol), eu noddwyr McDonalds a’r Gogerddan Arms, a’r mudiadau amrywiol a gefnogodd gyda’r gwaith o ail wneud yr ystafelloedd newid yn arbennig Tai Ceredigion a Howden’s Kitchens. Mae diolch hefyd i’r gwirfoddolwyr, yn arbennig Steve Jones a Richard Edwards.
Gydag arwyddion cadarnhaol, mae’r tîm yn edrych ymlaen at ail-ddechrau chwarae, ac wrth gwrs, dychwelyd i’w cartref, y Gogerddan Arms.