Mae Angeles Santos Rees, sydd yn wreiddiol o’r Ariannin, wedi dechrau busnes newydd yn arbenigo mewn bwyd o’r Ariannin, Cegin Patagonia. Mae’r busnes yn canolbwyntio ar ei hoff fwyd: Empanadas! Maent yn dod mewn 4 blas gwahanol, cig eidion, cyw iâr, caprese (ham, caws, tomato a basil), neu gaws a nionod. Rhaid prynu mewn set o 6 ond maent yn dosbarthu o fewn 10 milltir i Aberystwyth.
Cafodd ei magu gyda’r arferiad o wahodd teulu a ffrindiau ynghyd o leiaf unwaith yr wythnos, lle byddent yn coginio bwyd traddodiadol a dilys iddynt.
Er ei bod yn dod o deulu traddodiadol o’r Ariannin sydd â chefndir Eidalaidd, Ffrengig, Sbaeneg, Groegaidd, Twrcaidd (a mwy), gwahanol flasau, aroglau cyfoethog, a chariad at “fwyd da”.
Mae’n defnyddio cynhwysion ffres lleol ac o ansawdd uchel o Gymru i wneud yr Empanadas, gan roi cyffyrddiad Cymraeg arbennig iddynt.
Dewisodd yr enw Cegin Patagonia ar gyfer y cwlwm arbennig a chofiadwy sydd gan Gymru a Patagonia.
Bydd nifer ohonoch yn ymwybodol o fusnesi ei gwr, Aled Rees, sydd yn rhedeg Teithiau Tango, Siop y Pethe a chyd-redeg Byrger. Pob lwc i chi i Angeles a’r teulu.