Mae dramodydd o Aberystwyth, Carwyn Blayney yn rhan o gyfres o 12 ddrama i bobl ifanc (Dwy Ddrama Ha-Ha!) a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch yn ddiweddar.
Mae Carwyn yn gweithio gyda Chwmni Theatr Arad Goch, fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ers graddio o brifysgol Aberystwyth yn 2016. Mae’n cyfarwyddo cynyrchiadau ac yn arwain clwb drama AGwedd pob nos Fercher i bobl ifanc 11-15 oed.
Fel rhan o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsiân, gwaith tri o’r aelodau, Endaf Griffiths, Cennydd Jones a Carwyn yw’r ddrama Oli sydd yn ymddangos yn y gyfrol sydd hefyd yn cynnwys drama “Y Bwldoser” gan Sam Jones.
Dywedodd Carwyn: –
Odd Oli ‘di cael ei hysgrifennu gan dri ffrind mewn tafarn. Wnaethon ni weld taw hwn bydde’r cyfle olaf i’r tri ohonom ni i ‘sgwennu drama gomedi i’r Clwb Ffermwyr ifanc, felly ein nod oedd cael cymaint o hwyl a phosib!
Mae ‘na lwyth o’n personoliaeth ni yn y ddrama, o’r cymeriadau i’r gân sydd yn ymddangos mewn sawl golygfa. Roedden ni mor falch i weld y gynulleidfa yn cael cymaint o sbort a ni ar berfformiad gyntaf y ddrama yn Felinfach – ond gallwn ni byth wedi dychmygu byddwn ni’n mynd ‘mlaen i ennill y gystadleuaeth dros Gymru a chael y sgript wedi ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch!
Diolch o galon i Wasg Carreg Gwalch am hynny, ac am agor y drws i gwmnïoedd eraill rhoi go ar lwyfannu Oli yn y dyfodol.
Mae modd prynu’r gyfrol yma Dwy Ddrama Ha-Ha! – 3 yn eich siop lyfrau leol neu drwy Gwales.
Mae 6 cyfrol ar gael yn y gyfres Dwy Ddrama, yn cynnwys: –
- Dwy Ddrama Ha-Ha! – 1 –‘Dan y Morthwyl’ and ‘Nyth Cacwn’ gan Ifan Gruffydd Jones (Ifan Tregaron)
- Dwy Ddrama Ha-Ha! – 2 – ‘Gwylltio’ gan Haf Llewelyn a ‘Ffyrst Rispondars’ gan Gwynedd Huws Jones (ill dau o’r Bala)
- Dwy Ddrama Ha-Ha! – 4 – ‘Pla’r Gwylanod’ gan Eirlys Wyn Tomos a ‘A Oes Heddwch?’ gan Dafydd Llewelyn
- Dwy Ddrama Ha-Ha! – 5 – ‘Rhiwbob’ gan Peter Hughes Griffiths a ‘Lle bo camp bydd rhemp’ gan Meinir a Gwion Lynch.
- Dwy Ddrama Ha-Ha! – 6 – ‘Creisus Canol Oed’ gan Gwenan Gruffydd a ‘Hunanynysu yn Ynys y Gors’ gan Myrddin ap Dafydd.
Beth am i chi wneud drama fel rhan o ddod a’r gymuned yn ôl at ei gilydd.