Mae yna lawer o lwybrau i’w crwydro ym Mwlch Nant yr Arian.
Dyma’r diweddaraf yng nghyfres Taith Gerdded yr Wythnos Cyngor Sir Ceredigion.
Mae hon yn daith o 11km/7 milltir gan ddechrau o Ganolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian.
O lwybr troed ar hyd yr afon a dros gaeau agored, mae’r llwybr cul serth yn arwain at draciau ucheldir gwyllt ac anghysbell. Mae’r llwybr hwn ar gyfer cerddwyr cymedrol, iach. Mewn tywydd gwael, mae’n gallu bod yn anodd chwilio eich ffordd yn yr ucheldir agored ond prydferth hwn.
Cofiwch …
- Ymgyfarwyddo ag unrhyw ganllawiau cyfredol, lleol ynghylch teithio i wneud ymarfer corff.
- Cadw pellter cymdeithasol bob amser, parchu’r amgylchedd a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Mae mwy o wybodaeth am gynllun ‘Taith Gerdded yr Wythnos’ ar gael ar dudalen Archwilio Ceredigion ar wefan y Cyngor.
Gallwch hefyd anfon neges e-bost i Countryside@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881 a gofyn am gael siarad ag aelod o’r tîm Arfordir a Chefn gwlad.
Pob hwyl ar eich taith!