Bardd buddugol Eisteddfod y DDOLEN

Rhifyn Ebrill Y DDOLEN yn y siopau nawr

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)
Eisteddfod_ddolen_ErylRees

Eryl Rees a’r gadair gyfforddus ddefnyddiol!

Eisteddfod_ddolen_ErylRees

Eryl Rees a’r gadair gyfforddus ddefnyddiol!

Llongyfarchiadau i Eryl Rees, Tregaron ar ennill cadair gyfforddus ddefnyddiol Eisteddfod y Ddolen. Mae’r gerdd fuddugol wedi ei chyhoeddi yn rhifyn Ebrill sydd ar gael yn y siopau nawr. Gwelir gweddill y canlyniadau yn y rhifyn hefyd yn ogystal â’r erthygl fuddugol ac ysgrifennu creadigol ar y testun ‘Fy Arwr’ gan blant derbyn, blwyddyn 1 a 2. Maent yn werth eu darllen.

Caryl Jones, Ponterwyd oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth ffotograffiaeth ar y testun ‘Allan yn yr awyr agored’.

Diolch i bawb gefnogodd yr Eisteddfod, roedd y beirniaid wedi mwynhau’r arlwy o ddeunydd amrywiol. Edrychwn ymlaen at gyhoeddi mwy dros y misoedd nesaf.

Dyma gyhoeddi rhifyn Mawrth Y DDOLEN ar lein gyda detholiad o ddeunydd ar ffurf ffeiliau sain (tua chwarter awr yr un):

 

 

 

 

Dweud eich dweud