Anrhydedd CBDC / UEFA ar gyfer Hyfforddwr Clwb Pêl-droed Bow Street
Mae cymwysterau hyfforddi Clwb Pêl-droed Bow Street wedi cynyddu ymhellach fyth wrth i Bennaeth Datblygu Ieuenctid y Clwb, Amlyn Ifans, ennill trwydded bwysig gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Dechreuodd Amlyn, a anrhydeddwyd yn Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn gan y gymdeithas yn 2018, astudio ar gyfer y cymhwyster ym Medi 2020 o dan warchodaeth Gareth Owen (Ymddiriedolaeth CBDC) a Colin Littejohns (CP Everton). Roedd y cwrs yn cynnwys nifer o sesiynau theori ac ymarferol, gyda llawer o’r modiwlau yn cael eu cynnal yn rhithiol oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Cynhaliwyd y gweithdy olaf yng Nghoedlan y Parc, cartref Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, ddiwedd Ebrill eleni.
“Dwi wrth fy modd yn derbyn cadarnhad o’r diwedd ’mod i wedi ennill Trwydded B Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar ôl nifer o sesiynau ar-lein a rhai ‘go iawn’, gorchwyl a wnaethpwyd dipyn yn anos gan y pandemig,” meddai Amlyn. Gobeithio y bydda i’n medru trosglwyddo’r wybodaeth i’r chwaraewyr dan fy ngofal, a dwi’n siŵr y bydd hyfforddi’r Ail Dîm yn strwythur newydd Haen 3, ynghyd â ’ngwaith gyda’r timau ieuenctid, yn rhoi’r cyfle i mi wneud hynny.”
Ychwanegodd Cadeirydd y Clwb Wyn Lewis,
“Ro’n i’n gwybod y byddai Amlyn yn llwyddo i ennill y cymhwyster oherwydd ei ddoniau amlwg yn hyfforddi timau hŷn y clwb, yn ogystal â’i waith gyda’r ieuenctid – sy’n cynnwys darpariaeth Huddle Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer merched iau. Mae Amlyn bellach yn uchel ei barch fel un o hyfforddwyr datblygu ieuenctid mwyaf blaenllaw Cymru, ac ry’n ni’n hynod ffodus o’i gael yn aelod o Glwb Pêl-droed Bow Street. Ry’n ni’n ffyddiog y bydd hyn yn gosod sail i ni dderbyn achrediad ‘Platinum’, safon uchaf CBDC, ar gyfer ein hadran Ieuenctid yn fuan iawn.”