Sêr Ysgol Mynach

Disgyblion Ysgol Mynach yn perfformio’r gân Gymraeg ‘Dyma Fi’ allan o ‘The Greatest Showman’

gan Anwen Jenkins

Dyma Fi- Ysgol Mynach

https://www.youtube.com/watch?v=J_Ff5J9vRts

Yn ysgol Mynach, rydym wedi bod yn astudio’r Greatest Showman. Fel rhan o’r thema, aeth y plant ati ddysgu’r gan yn Gymraeg, diolch i Gôr CF1 am y geiriau.

Roedd y disgyblion wrth eu boddau’n dysgu’r negeseuon hollbwysig tu ôl i’r sioe gerdd. Y neges oedd i ddathlu ein gwahaniaethau ac ein bod ni i gyd yn berffaith ac yn unigryw fel yr ydym.

Nid oedd hi’n hawdd chwilio ffordd i ganu yn ystod rheolau Covid-19 felly ffilmiwyd y disgyblion yn unigol, gan roi’r clipiau at ei gilydd yn ddigidol yn hwyrach. Diolch i Nia Medi James, Llwynmerchgwilym Bronant am helpu yn golygu’r gân. 

Braf oedd clywed yr heniaith yn cael ei chanu gyda chymaint o ddysgwyr yn ein plith!

Yn dilyn prosiect ‘Dyma Ni’, aeth y plant ati i greu celf digidol yn cyfleu negeseuon pwysig y Sioe Gerdd. Penderfynodd y plant i werthu’r cardiau lliwgar mewn pecyn am £10.00, cysylltwch â’r ysgol os am brynu!

Llongyfarchiadau i’r plant am eu gwaith creadigol, bendigedig!

Miss Anwen Jenkins, athrawes ysgol Mynach.