Mae gwasanaeth newydd wedi cael ei lansio yn Aberystwyth er mwyn bod yn bwynt cyswllt rhwng busnesau lleol a’u cwsmeriaid.
Y dyn busnes lleol Aled Rees, sydd tu ôl i’r gwasanaeth newydd. Dywedodd wrth golwg360: “Y nod yw bydd pobol yn gallu archebu cynnyrch lleol ar lein o wefan ganolog, a bydd y gwasanaeth yn sicrhau fod yr economi leol yn dal i droi.”
“Codir tâl bach am y gwasanaeth, felly byddem yn annog pawb i archebu mewn swmp – efallai unwaith yr wythnos. Yna bydd yr eitemau’n cael eu danfon ar y dosbarthiad nesaf sydd ar gael i’ch ardal chi.”
Mewn cyfweliad â Bro360 wythnos diwethaf eglurodd Aled Rees fyddai nifer o fusnesau yn wynebu heriau mawr oherwydd y coronafeirws.
Mae’r dyn busnes sydd berchen tri chwmni teithio (Teithiau Tango, Cambria DMC a Teithiau Cambria), Siop y Pethe, ac yn un o bartneriaid bwyty Byrgyr yn y dref, yn awyddus i leihau’r pwysau ar fusnesau ac mae’n ddiolchgar fod ei staff wedi cytuno i roi help llaw gyda’r ochr weinyddol o redeg Ymaichi.
Cadw cwsmeriaid a lleihau’r cyswllt
“Ein blaenoriaeth yw sicrhau fod busnesau yn cadw eu cwsmeriaid, ddim yn colli eu cwsmeriaid,” meddai.
“Gobeithio bydd y gwasanaeth yn rhywbeth a fydd yn ei gwneud ychydig yn haws i bobol aros gartref, neu o leiaf gael llai o gyswllt ag eraill.”
“Cefnogi’r rheng flaen”
Yn ôl Aled Rees, “dydy’r gwasanaeth newydd ddim er elw, ond yn hytrach yn cefnogi’r gymuned leol yn y cyfnod ansicr yma.
“Byddwn ni’n gofalu am weinyddiaeth y gwasanaeth yn ogystal â chodi rhywfaint ar gyfer y rhai sydd mewn angen a chefnogi’r rheng flaen anhygoel!”
Ymestyn tu hwnt i Aberystwyth
Bydd y cynllun yn dechrau yn Aberystwyth, a’r gobaith yw ymestyn i ardaloedd cyfagos dros yr wythnosau nesaf.
Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth newydd ewch i dudalen Facebook Ymaichi.
Bydd y wefan newydd yn cael ei lansio dros y dyddiau nesaf.