Blwyddyn ers i dafarn y Falcon gau ei drysau mae’r dafarn sydd wedi bod yn ganolbwynt i bentref Llanilar ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi ailagor ei drysau i gwsmeriaid.
Nos Sadwrn, Ionawr 25, roedd y lle yn orlawn ar gyfer noson i ddathlu ailagor y dafarn, ac ers hynny mae’r dafarn wedi lansio cyfres o fwydlenni amrywiol.
Hanes y Dafarn
Credir bod yr adeilad wedi agor yn wreiddiol ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, er hyn yn ôl Peint o Hanes Cymru mae’r cofnod cynharaf o ddefnydd yr adeilad fel tŷ tafarn wedi ei gofnodi yn yr Aberystwyth Times yn 1869 pan roddwyd yr hawl i Robert Jones werthu diodydd alcoholaidd yn y dafarn dan ddeddf newydd ‘tŷ cwrw 1869’.
“Ateb y galw”
Fis Ionawr eleni roedd cynlluniau wedi eu cynnig gan Patrick Loxdale sy’n byw yn lleol i adeiladu tafarn newydd ar Fryn y Castell ger cartref tîm pêl-droed Llanilar “i ateb y galw am dafarn yn y pentref”.
Er hyn, roedd y cynlluniau hyn yn ddibynnol ar ddyfodol tafarn y Falcon a bellach wedi eu rhoi wrth gefn.
Mae’r dafarn ar agor 6 diwrnod yr wythnos:
- Llun: Ar Gau
- Mawrth: 16:30 – 23:00
- Mercher: 16:30 – 23:00
- Iau: 16:30 – 24:00
- Gwener: 16:30 – 24:00
- Sadwrn: 12:00 – 24:00
- Sul: 12:00 – 18:00
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Dafarn y Falcon ar eu tudalen Facebook