Mae Fforwm Cymunedol Penparcau yn mynd o nerth i nerth gyda nifer o ddigwyddiadau newydd yn 2020 – rhywbeth i apelio i bawb. Sefydlwyd y Fforwm wedi i Lywodraeth Cymru ddiddymu cyllid Cymunedau’n Gyntaf ar gyfer ardal Penparcau. Gyda chefnogaeth Cyngor Tref Aberystwyth, crëwyd corff newydd, gwirfoddol i ymgeisio am grantiau. Bu’r corff yma yn llwyddiannus i gael cyllid i ehangu ar y Clwb Bocsio, a chreu Hwb Cymunedol i Benparcau gan gynnwys Caffi Gwenallt.
Ar fore Llun am 10 y bore (o’r 10-2-20 ymlaen), cynhelir Bore Coffi Cymraeg. Bydd hwn yn gyfle i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg i siarad ac ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol gyda phaned a chacen. Trefnir y digwyddiad yma ar y cyd gyda Cered a bydd yn cwrdd bob pythefnos.
Dydd Mawrth, rhwng 1 a 3, (rhwng 14 o Ionawr a 31 o Fawrth) cynhelir JOY (Just Older Youth) – grŵp newydd ar gyfer pobl hŷn yn y gymuned. Galwch draw i’r Hwb i gael paned a sgwrsio gyda hen ffrindiau neu wneud ffrindiau newydd. Mae cludiant i’r digwyddiad ac oddi yno ar gael (ac am ddim).
Hefyd ar nos Fawrth, mae gweithdy Gwyddoniaeth i blant (WhoDunnIt?) – i blant rhwng 8 a 12 mlwydd oed rhwng 5.15 – 6.15 yr hwyr, a rhwng 6.45 – 7.45 yr hwyr i blant dros 12 mlwydd oed, cwrs am 6 wythnos.
Ar yr 8fed o Chwefror 2020, bydd grŵp cyn-filwyr Ceredigion yn cael brecwast rhwng 10 a 12 y bore, a bydd y digwyddiad yma yn digwydd ar yr ail ddydd Sadwrn o bob mis.
Bob bore Mercher (rhwng y 5ed a 26ain o Chwefror), bydd grŵp mathemateg i oedolion. Y bwriad fydd helpu rhieni sydd yn awyddus i helpu eu plant gyda’i gwaith cartref, a chael hwyl yn dysgu sut i wneud defnydd o fathemateg. Bydd y grŵp yn cwrdd rhwng 9.15- 10.15 y bore.
Am 12.30 ar ddydd Mercher (o 26ain o Chwefror tan y 18fed o Fawrth), bydd gweithdy Ysgrifennu Creadigol. Bydd hwn yn gyfle rhad ac am ddim i archwilio eich potensial ysgrifennu creadigol mewn awyrgylch hwyliog a chefnogol.
Ym mis Mawrth (11, 18, 25ain), bydd grŵp theatr newydd ar gyfer plant rhwng 6-11 mlwydd oed. Cwrs o dair sesiwn blasu ym mis Mawrth! Archebwch yn gyflym, mae lleoedd yn gyfyngedig
Am fwy o fanylion – ewch i https://penparcau.cymru/ neu dudalen Facebook https://www.facebook.com/PenparcauCommunityForum/