Papur bro Y DDOLEN yn cyflwyno Her ddarllen yr Haf

Dewch i ymuno â her ddarllen yr haf Y DDOLEN!

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)

Mae’n braf clywed am bobl ifanc sy’n hoffi darllen eu papur bro. Dyma griw golygyddol Y DDOLEN yn penderfynu rhoi hwb i ddarllen pob math o ddeunydd yn ystod yr haf eleni drwy gynnal Her ddarllen yr haf i blant (ond croeso i oedolion gymryd rhan hefyd os gwrs!).

Mae llyfrau yn gallu mynd a ni ar bob math o deithiau diddorol, i gwrdd â chymeriadau difyr ac yn tanio ein dychymyg. Beth am ddarllen am ugain diwrnod (o leiaf!) yn ystod y gwyliau? Beth am geisio darllen 6 llyfr mewn 6 wythnos? Rydym wedi cynhyrchu siart i’ch cynorthwyo i lwyddo a chwblhau her ddarllen yr haf! (Mae’r siart wedi ei argraffu yn rhifyn Awst 2020 Y DDOLEN neu lawr lwythwch y siart HerDdarllen o’r wefan yma) Beth am ddanfon llun atom i’r DDOLEN ohonoch chi a’r siart pan fyddwch wedi cwblhau’r her! Caiff pob darllenydd sy’n cwblhau’r her dystysgrif Her ddarllen yr Haf drwy e-bost.

Cystadleuaeth 

Hoffem ni wybod mwy am y llyfrau fyddwch chi’n eu darllen dros yr haf eleni, trwy gynnal cystadleuaeth arbennig yn ystod mis Awst. Darllenwch lyfr o’ch dewis ac ysgrifennwch baragraff amdano (tynnwch lun hefyd os dymunwch) a’i anfon atom. Beth am sôn am eich hoff gymeriad, crynhoi’r stori yn eich geiriau eich hunan, neu sôn am eich hoff ran o’r llyfr? Mae’n hollol lan i chi!

Mae tocyn llyfr £10 yn wobr i’r darnau gorau mewn tri chategori sef dan 7 oed, 7-11 ac 11-14 oed. 

Dyddiad cau:  20 Awst

Y beirniad yw Mared Llwyd, Rhydyfelin, awdur ac athrawes sy’n edrych ymlaen at ddarllen eich darnau. 

Anfonwch eich ceisiadau ar e-bost i y.ddolen@gmail.com neu at Enfys Evans, Hafan, Llanddeiniol, Llanrhystud, Ceredigion, SY23 5DT

Dweud eich dweud