Roedd hi’n dipyn o ddirgelwch i bawb pwy oedd y siaradwr gwadd yn ein cyfarfod yng Ngwesty’r Richmond nos Wener Ionawr 10fed. Gwyddem fod yna newid yn y trefniadau ac roedd pawb wrth eu bodd i weld wyneb lleol cyfarwydd a hwyliog yn y bar wrth i bawb gyrraedd. Braf oedd cael cwmni Elen Pencwm i’n diddori yn ei dull dihafal ei hun. Mae teulu Pencwm Penrhyn-coch yn adnabyddus i gylch eang yn y fro ac mae Elen a’i gwreiddiau yn ddwfn yn yr ardal. Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig aeth i Goleg y Drindod Caerfyrddin cyn mentro i fyd caled ac anwadal perfformio ar y cyfryngau. Mae’n wyneb cyfarwydd ar raglenni plant S4C ac mae’n gyflwynydd poblogaidd ar y radio ac ar y teledu. Y tu hwnt i’w gwaith mae’n gymeriad ffraeth a doniol ac mae’n byrlymu o straeon difyr, rhai yn ddigon cignoeth a mentrus, a phob un â sawr o hiwmor unigryw y Cardi. Cyfeiriodd ein cadeirydd Sion Griffiths ati fel un o’r enghreifftiau gorau o raconteur sydd gyda ni fel Cymry. Fe lwyddodd Elen i gael aelodau’r Cylch Cinio yn eu dyblau yn chwerthin drwy’r nos ac roedd hynny yn therapi ardderchog a llesol i bawb. Ar hyn o bryd mae Elen wedi rhoi’r gorau i berfformio a bellach mae’n gweithio i Menter a Busnes ar eu gwasanaethau amaethyddol. Gobeithio y bydd eto yn ail gydio yn y ddawn gynhenid sy ganddi i gyflwyno difyrwch yn ei steil arbennig ei hun.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at Wyn Hughes sydd wedi bod yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar ac sy’n aros i ddychwelyd yno eto a danfonwyd dymuniadau gorau iddo. Braf oedd gweld Malcolm Davies yn ôl yn ein plith wedi cyfnod o anhwylder a llongyfarchwyd Dr Richard Edwards a John Harries, y ddau, ar ddod yn dad-cu. Croesawyd Illtyd Griffiths fel aelod newydd o’r Cylch ac ef a enillodd y raffl.
Bydd y cyfarfod nesa yn y Richmond nos Wener Chwefror 14eg a hynny yng nghwmni Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae dechrau blwyddyn newydd yn gyfle ardderchog i greu ffordd o fyw newydd a llawer mwy cyffrous drwy ymaelodi â chylch Cinio Aberystwyth.