Cafwyd cyflwyniad gwybodus, clir a chyffrous gan Ioan Lord yng Nghyfarfod Cymdeithas y Penrhyn nos Fercher 19 Chwefror yn Festri Horeb, Penrhyn-coch.
Dechreuodd ei ddiddordeb yn y gwaith mwyn pan oedd yn blentyn bach yn cerdded ardal Cwm Rheidol yng nghwmni ei dad.
Gan ddefnyddio lluniau pwrpasol adroddodd hanes cloddio mwyn o’r dechreuadau yn ystod Oes y Rhufeiniaid. Soniodd am dwf y diwydiant yn ystod y 16eg, 17eg a’r 18fed ganrif, gan ddisgrifio bywyd caled y mwynwyr a’u teuloedd, yn cynnwys y gwragedd a’r plant.
Nid ymchwil o lyfrau a dogfennau yn unig oedd gan Ioan. Mae ef a’i ffrindiau yn gyfarwydd â’r ardal ac yn abseilio i berfeddion daear i chwilio am olion y diwydiant. Dyma rai o’r darganfyddiadau maent wedi dod o hyd iddynt yn ddiweddar:
Mae’n waith arloesol, ond peryglus, a’r canlyniadau yn hynod werthfawr i’r hanesydd lleol.
Roedd clywed am olion y cloddio ym mhentref Tal-y-bont tu ôl i’r ‘Black’ yn agoriad llygaid i’r rhan fwyaf ohonom.
Gwelir ffrwyth ei ymchwil mewn llyfr diweddar: Rich Mountains of Lead: The metal mining industry of Cwm Rheidol and Ystumtuen (2018).
Os hoffech ddilyn Ioan ar daith i ddarganfod olion y gwaith mwyn drosoch eich hun ewch i wefan ANTURON MWYN GORLLEWIN CYMRU: https://www.midwalesminetours.com/?lang=cy
Mae ganddo ffrwd o fideos diddorol hefyd ar Youtube. Dyma un esiampl: