60 Mlynedd o Addysg Gymraeg Cyn-ysgol

Cylch Meithrin Aberystwyth yn Dathlu 60 Mlynedd

Rhiannon Salisbury
gan Rhiannon Salisbury

Mae Cylch Meithrin Aberystwyth yn dathlu 60 mlynedd o addysg Gymraeg cyn-ysgol eleni. Cylch Meithrin Aberystwyth oedd un o’r Cylchoedd Cymraeg cyn-ysgol cyntaf yng Nghymru, ac fe’i sefydlwyd yn dilyn ymgyrch gan Gymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Gymraeg Aberystwyth er mwyn rhoi hwb i addysg Gymraeg yn yr ardal. Mae perthynas gref yn bodoli rhwng y Cylch ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth, ynghyd ag ysgolion lleol eraill, hyd heddiw.

Canolfan Integredig Mudiad Meithrin, Boulevard De Saint Brieuc yw cartref presennol y Cylch ond cychwynnodd y ddarpariaeth yn hen adeilad Aelwyd yr Urdd ar Ffordd Llanbadarn cyn symud i’r Hen Ysgol Gymraeg ar Ffordd Alecsandra, ymlaen wedyn i Ysgol Llwyn yr Eos a’r Ganolfan Gymunedol ym Mhenparcau.

Mae Cylch Meithrin Aberystwyth yn rhan o fudiad gwirfoddol Mudiad Meithrin sy’n arbenigo ym maes gofal ac addysg blynyddoedd cynnar. Nod Cylch Meithrin Aberystwyth yw i hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed, hyd nes y byddant yn cychwyn yn yr ysgol.

Carys Lloyd yw arweinydd presennol Cylch Meithrin Aberystwyth ac mae hi’n arwain tîm brwdfrydig ac ymroddedig o staff sy’n darparu cyfleoedd i blant i gymdeithasu ac i ddysgu trwy chwarae. Mae 24 o blant yn mynychu’r Cylch o fis Medi eleni, a hynny’n gyfuniad o sesiynau bore/prynhawn neu drwy’r dydd. 12 o blant oedd yn mynychu’r Cylch pan yr agorwyd gyntaf o dan arweiniad dwy aelod o staff, Mrs E M Job a Mrs T R Jones, a phanel o wirfoddolwyr.

Yn debyg iawn i heddiw, codwyd arian i’r Cylch trwy gyfrwng digwyddiadau megis sêl ail law a boreau coffi, a drefnwyd gan staff a Phwyllgor gwirfoddol o rieni’r Cylch. Yn ogystal â’r digwyddiadau blynyddol megis y Disgo Calan Gaeaf ac ymweliad Siôn Corn i’r parti Nadolig, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf trefnwyd diwrnod o ddathlu i nodi pen blwydd Sali Mali yn 50 a digwyddiad arbennig ‘Diwrnod yng Nghwmni Deian a Loli’ ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ar y diwrnod, cafwyd cyfle i gwrdd â Deian a Loli eu hunain, gwylio dangosiad cyntaf o benodau newydd y gyfres deledu ac ymuno â nhw i gael stori! Mae cynnal digwyddiadau o’r fath, ynghyd ag ymgeisio am grantiau, yn sicrhau ffynhonnell gyllid i’r Cylch ac mae staff ac aelodau’r Pwyllgor presennol yn ddiolchgar iawn am bob cefnogaeth yn hyn o beth.

Yn anffodus, o ganlyniad i’r sefyllfa bresennol gyda phandemig Covid-19, ni fydd hi’n bosib trefnu dathliad ffurfiol i nodi pen blwydd Cylch Meithrin Aberystwyth yn 60 ond gobeithiwn yn fawr y byddwch yn mwynhau’r clip lluniau a geir ar dudalen Facebook y Cylch yn fawr!

Pen blwydd hapus iawn i Gylch Meithrin Aberystwyth yn 60 oed!