Mae mam o Dal-y-bont yn cael ei disgrifio fel “Peter Crouch Cymru” ar ôl i fideo ohoni’n cicio pêl drwy ffenest ei thŷ fynd yn feiral ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fel nifer o bobol ar draws y wlad, mae Mair Nutting, sydd yn gweithio i UCAC yn Aberystwyth, bellach yn gweithio o adref.
Er mwyn diddanu ei gilydd, mae ei mab Garmon wedi bod yn ei hannog i wneud heriau gwahanol tra’n hunanynysu – ac un o’r rhain oedd cicio pêl drwy ffenest y tŷ.
Bellach mae fideo o’r gamp, sydd wedi ei rannu gan raglen deledu Match of the Day, wedi ei wylio dros 150,000 o weithiau ar-lein.
Ac oherwydd dathliad unigryw Mair Nutting ar ddiwedd y fideo, mae cyn-bêldroediwr Lloegr, Peter Crouch wedi ei llongyfarch.
‘Rhoi gwên ar wynebau’
“Fi ffili credu fe i ddweud y gwir, mae’n dangos pa mor bwerus yw’r cyfryngau cymdeithasol,” meddai Mair Nutting wrth golwg360.
“I fi’r sbort gawsom ni yn i greu e yw’r peth pwysicaf, a fi’n falch o allu rhoi gwên ar wynebau pobol yn y cyfnod ansicr yma.”
Mae hi’n annog pobol eraill i drio heriau tebyg er mwyn diddanu ei gilydd tra’n hunan ynysu.
“Ma’ ffrind i mi wedi dweud na fyswn i’n gallu i wneud e’r ail waith – felly watch this space!”
Love
— Peter Crouch (@petercrouch) April 19, 2020