Holi barn y cyhoedd am greu llwybrau saff yng Ngheredigion

Y nod yw sicrhau bod y llwybrau cerdded a beicio ar gyfer y gymuned gyfan

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cyngor Ceredigion am holi barn preswylwyr ynglŷn â gwneud gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio’r sir.

Maen nhw yn gweithio gyda’r elusen Sustrans Cymru fel rhan o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

Y nod yw sicrhau bod teithiau ar droed neu ar feic yn haws ac yn fwy diogel i bawb, yn enwedig i’r rhai sydd ddim yn cerdded neu’n beicio’n aml a phobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn a sgwteri.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar dair tref yng Ngheredigion a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.

Manteision diogelwch ac amgylcheddol

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards sy’n Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai:

“Mae teithiau llesol yn cynnig ystod eang o fanteision, gan gynnwys helpu i leihau carbon a gwella ansawdd yr aer ynghyd â gwella iechyd a lles, felly mae hwn yn gyfle gwych i drigolion Ceredigion ddweud wrthym beth yr hoffent ei weld yn cael ei gynnwys yn ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn y dyfodol.”

Er mwyn dylunio rhwydwaith sy’n gweithio i bawb, mae’r cyngor yn awyddus i gael barn cynifer o bobl â phosibl, er mwyn sicrhau bod y llwybrau yn gweithio i’r gymuned gyfan.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut mae modd rhannu eich barn fan hyn.

Gallwch gyfrannu hyd at Ionawr 4, 2021.