Tân gwyllt i groesawu ymwelwyr i faes carafanau yn gwylltio pobol leol

Pryderon am yr effaith gall cynnydd yn y boblogaeth yn Borth ei gael ar wasanaethau iechyd lleol.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae pobol leol yn ardal Borth wedi apelio ar ymwelwyr i ddychwelyd adref ar ôl i niferoedd cynyddol o bobol deithio i’r ardal i aros mewn carafanau yn dilyn cyngor Llywodraeth Prydain y dylai pawb ynysu eu hunain oherwydd y coronafeirws.

Yn ôl un person sy’n byw yn barhaol yn un o feysydd carafanau Borth, cyrhaeddodd dros 100 o bobol un o’r meysydd carafanau yn ystod nos Wener yn unig. (Mawrth 20)

Dywedodd person arall sydd yn byw yn y pentref wrth golwg360 fod ymwelwyr i’w gweld yn dathlu wrth gyrraedd y meysydd carafanau.

“I ddathlu’r tymor newydd, roedd tân gwyllt i’w weld o un o’r meysydd carafán”, meddai.

Er nad oedd modd i’r person gadarnhau os oedd pobol wedi ymgasglu i wylio’r tân gwyllt, dywedodd fod y “sefyllfa yn un bryderus iawn i bobol sy’n byw yn Borth, a phentrefi arfordirol eraill.”

“Saith diwrnod yn rhy hwyr”

Ychwanegodd, “Dywedodd yr Aelod Seneddol, Ben Lake, wrtha’ i y bydd y mater yn cael ei drafod wythnos nesaf – ond mae wythnos nesaf saith diwrnod yn rhy hwyr.

“Mae’r peth yn hurt, roedd pobol i’w gweld yn adeiladu cestyll tywod ar y traeth bore ’ma!

“Mae angen i barciau carafanau gau nawr.”

Effaith ar y gwasanaeth iechyd

Yn dilyn hyn mae’r Aelod Seneddol wedi galw ar bobol i beidio â theithio i ail gartrefi a pharciau carafanau yng nghefn gwlad Cymru, ac mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, i wneud rhywbeth am y sefyllfa.

Mewn datganiad dywedodd Ben Lake, “Ni ellir gor-bwysleisio difrifoldeb y sefyllfa ac effaith y cynnydd yn y boblogaeth ar wasanaethau iechyd lleol.

“Rhaid i’r Llywodraeth weithredu.”

Mae’r Prif Weinidog, Boris Johnson eisoes wedi galw ar bobol i beidio teithio oni bai ei fod yn hanfodol.