Gemau Chwaraeon Adref Ceredigion Actif

Gêm all plant a phobl ifanc ei chwarae adref neu yn yr ardd.

gan Rhidian Harries

Mae tîm Pobl Ifanc Egnïol Ceredigion wedi bod yn brysur dros y cyfnod ansicr hwn yn meddwl am, creu a rhannu syniadau i blant a phobl ifanc y sir i gadw’n actif adre. Yn wythnosol mae dwy gêm yn cael eu rhyddhau ar wefannau cymdeithasol Facebook a Twitter Ceredigion Actif, ac mae’r rhain yn gemau syml all gael eu chwarae adref yn y tŷ neu yn yr ardd. Mae clip fideo i gyd-fynd gyda’r gêm yma, lle mae’n bosib bod yn greadigol er mwyn llunio Cwrs Golff yn eich tŷ! Mae angen pâr o sanau, a drwy daflu at darged fel bwced mae’n bosib dychmygu chwarae rownd o Golff! Gall plant ifanc ymarfer y sgil o daflu dan y fraich, tra bod pobl ifanc yn gallu ymgymryd a’r dasg mewn ffordd llawer yn fwy cymhleth! Gobaith y gemau yma yw rhoi boddhad i blant a theuluoedd, wrth geisio gwella sgiliau sylfaenol, symud o gwmpas a cheisio aros yn iach a heini.