Sul, 31ain Fai, 2020
GEIRIAU I’N CYNNAL: 11 ‘Pentecost’
[Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.]
Anwyliaid yr Anwel,
Nid nepell o’r man lle’m ganed ar ochr y ffordd fawr sy’n arwain allan o dref Llanelli trwy bentref y Ffwrnes ac i fyny’r rhiw y mae hen adfail, ac mewn cyfnod pan oedd plant yn fwy creadigol ac anturus eu chwarae, mi fyddem yn arfer dringo’r llethr a godai o’r dyffryn islaw a gwneud ein ffordd at yr adeilad hwnnw ar gopa’r bryn. ‘Power House’ – dyna’r enw a roddwyd iddo, ac roedd yn lle braf i blant y cyfnod hwnnw chwarae. Hwnnw fyddai ein castell cadarn, yn amddiffynfa rhag ymosodiadau plant y tai cyngor cyfagos ym Maengwyn a Brynmefys, neu’r fan inni saethu ein bwledi tatws at indiaid cochion rheibus pentre’r Ffwrnes islaw.
Rwy’n cofio holi fy nhad pam o’dd pobl yn galw’r lle yn ‘Power House’, gan nad oedd ynddo yr un arwydd bellach i gyfiawnhau swyddogaeth o’r fath. Dim ond cragen wag o adeilad, yn agored i’r elfennau, y drws a’r ffenestri wedi eu tynnu erstalwm, a’r unig beth oedd yn weddill i awgrymu ei fod unwaith wedi haeddu ei enw oedd hen ynysydd trydan ar dalcen yr adeilad lle y cysylltwyd gwifrennau trydan unwaith.
Esboniodd fy nhad mai’r rheswm dros alw’r adeilad yn ‘Power House’ oedd oherwydd y gosodwyd ynddo unwaith glamp o beiriant i gynhyrchu trydan ar gyfer y pwll glo islaw ac i yrru’r winsh a godai’r wagenni glo i’r wyneb.
Ond caewyd y pwll glo, a gwerthwyd y generator am sgrap gan adael yr adeilad i droi’n adfail. Ac eto ro’dd pobl yn dal i gyfeirio at y lle fel ‘Power House’ er bod ei swyddogaeth wedi hen beidio.
Ar y dydd y dychwelodd Iesu yn ôl i’r nef, fe roddodd addewid i’w ddisgyblion, a wireddwyd ar ddydd y Pentecost, y byddai ei eglwys ef yn dod yn ‘Power House’ – yn Bwerdy grym yr Ysbryd Glân. ‘A chwi a dderbyniwch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddod arnoch.’
Y mae’r addewid y cyfeirir ato ym mhenodau agoriadol Llyfr yr Actau yn sôn am ddyfodiad grym gwahanol i’r hyn a brofwyd erioed o’r blaen. Y gair sy’n ymddangos yn y testun gwreiddiol yw dynamis, ac y mae iddo’r un gwreiddyn â’r gair dynamite, sy’n awgrymu fod effeithiau’r gallu hwn yn ffrwydrol a syfrdanol.
… ac yn sydyn fe ddaeth o’r nef sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro ac fe lanwodd yr holl dŷ lle’r oeddynt yn eistedd. Ymddangosodd iddynt dafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt a llanwyd hwy oll â’r Ysbryd Glân.
Ac effaith y gwynt nerthol a’r tafodau tân oedd trawsnewid y rhai a effeithiwyd ganddo. Aeth criw ofnus o ddisgyblion yn dystion eofn i’r newyddion da:
a dechreuasant lefaru … fel yr oedd yr Ysbryd yn rhoi lleferydd iddynt.
Pe byddai rhywun yn holi a oes gan yr eglwys Gristnogol ei dydd, mi fyddwn am fentro dweud taw’r Pentecost yw hwnnw. Dydd geni’r eglwys Gristnogol, dydd gwireddu disgwyliadau ac addewidion, dydd â’i ddylanwad yn rymus a pharhaol.
Mae ei ddyfodiad, fel yr awgryma’r gair ‘Pentecost’, hanner can niwrnod wedi diwrnod hynod a chofiadwy arall. Y Pasg oedd hwnnw – Dydd yr Atgyfodiad – a geiriau Cefni Jones yn crynhoi’r cyffro: ‘Cododd Iesu! nos ein trallod aeth yn ddydd … ocheneidiau droes yn gân.’
Mi fyddai rhai am ddadlau, mae’n siŵr, taw hwnnw yw’r diwrnod mwyaf – dydd buddugoliaeth Iesu ar angau a bedd a galluoedd y tywyllwch, a’r modd y datgelwyd y rhyfeddod hwnnw i glwstwr o wragedd a disgyblion a dilynwyr.
Ond ar ddydd y Pentecost y mae’r dystiolaeth yn sylweddoli sbectrwm ehangach a momentwm cyffrous, ac eglwys gyfan yn dod yn gyfrwng i gyfathrebu’r neges am Grist Anorchfygol i fyd cyfan.
Dyna’r potensial sydd yn addewid Iesu Grist i’w Eglwys – y grym sy’n bywhau – yn creu hyder a rhyddid ac yn troi dilynwyr yn dystion.
Mae’r addewid hwn o eiddo Iesu Grist yn addewid ar gyfer ei ddilynwyr ym mhob oes. Y mae’r grym yno i ni dynnu arno ac i sylweddoli ei allu i droi marwydos yn dân ysol a bodolaeth yn fywyd gwirioneddol.
Beth am inni geisio gweld gŵyl y Pentecost yn fwy na dyddiad ar galendr, yn fwy na chofnod ar dudalennau cyfarwydd, ond yn brofiad deinamig – yn wefr gwirioneddol? A beth am i ni weddïo’n daer ar i’r Ysbryd hwnnw ein llenwi ni fel y disgyblion hynny ’slawer dydd, a’n gwneud ni’n dystion i Iesu Grist yn ein cylchoedd a’n cymunedau, yn ein gwlad a’n byd?
‘Ysbryd Byw y Deffroadau disgyn yn dy nerth i lawr …’
Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter
DARLLENIADAU: Joel 2: 28–32; Actau 2: 1–13
GWEDDI:
Ysbryd Glân, yr wyt ti yn ysgogwr trefn a lluniwr y greadigaeth; ti yw’r gwynt sy’n chwythu’n ddigyfyngiad gan fywhau ac adnewyddu.
Ti yw’r tafod tân sy’n rhoi mynegiant i’n llais a’n tystiolaeth.
Daethost ar ddydd y Pentecost yn addewid ac yn rhodd i rymuso ac i greu hyder mewn disgyblion ofnus. Dyro inni o fewn dy eglwys heddiw brofi grym dy gyffyrddiadau di er mwyn i ni estyn allan mewn hyder ffydd i wasanaethu’r Arglwydd Iesu yn egnïol.
Gelwaist ni i fod yn dystion i ti ac yn genhadau dy wirionedd yn y byd – gan ein cymell i gychwyn y genhadaeth wrth ein traed ymhlith ein teulu a’n cydnabod ac yna ymestyn allan i’n cymunedau a’n gwlad ac i’n byd.
Diolchwn i ti am gyfle i rannu mewn cyfeillach o gylch dy Air ac i ymddiried o’r newydd ynot.
Gwasgar pob ysbryd anghynnes o’n meddwl a’n calon, a llenwa ni â’th Ysbryd Di, a bydded i ras ein Harglwydd Iesu Grist a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân fod gyda ni oll. Amen.
GWEDDI’R ARGLWYDD