Geiriau i’n Cynnal 15: Gwarchod

Geiriau i’n Cynnal 15: Gwarchod

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

Sul, 28ain Mehefin, 2020

GEIRIAU I’N CYNNAL 15: ‘Gwarchod’

Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.

Anwyliaid yr Anwel,

Yn dilyn gwahoddiad i arwain oedfa yng Nghapel y Priordy yng Nghaerfyrddin beth amser yn ôl, danfonwyd imi drefn y digwydd. Ar gychwyn oedfa’r bore roedd disgwyl i’r pregethwr godi ar ei draed, ond nid oedd i ddweud yr un gair i gymell neu i groesawu na hyd yn oed i gyhoeddi’r emyn cyntaf hyd nes i’r gynulleidfa gyfan godi ac adrodd y weddi hon:

Cyntaf gair a ddywedaf
Y bore pan gyfodaf –
Croes Crist yn wisg amdanaf.

Mae’n weddi gwta a chynnil o ran geiriau ond mae ei chynnwys yn fawr – gweddi sy’n ein hannog, cyn mentro i ddigwydd a bwrlwm dydd newydd, i ymddiried yn Iesu Grist a fu farw trosom ar y groes a gofyn iddo gylchu o’n cwmpas fel clogyn i’n gwarchod.

Ar raglen Dechrau Canu Dechrau Canmol rai Suliau’n ôl soniodd Euryl Howells, prif gaplan Ysbyty Glangwili, fod y gair ‘caplan’ yn dod o’r gair Lladin sy’n golygu ‘clogyn’ ac mai ei swyddogaeth yntau ydoedd ceisio ynghanol lludded ac afiechyd, argyfwng a storm, gynnig nodded a balm Efengyl Iesu Grist.

Diolch am y rhai sy’n cyflawni’r swyddogaeth honno mewn ysbyty a charchar a llawer lle arall yn ystod y cyfnod hwn ac am y bendithion a ddaw trwy eu gweinidogaeth.

Yn ystod y dyddiau diwethaf clywsom am fesuriadau Llywodraeth San Steffan i lacio’r gwaharddiadau a gododd yn sgil haint y coronafeirws.

Gochelgar a gofalus fu ymateb y Senedd yng Nghaerdydd hyd yma, gan gymryd camau bychain yn yr ymryddhau hwnnw, gan ddadlau taw diogelu a gwarchod pobl yw’r flaenoriaeth o hyd. Erys y perygl i ail don o’r feirws godi pe digwydd i bethau gael eu rhuthro. Parhawn i droedio’n ofalus a chadw’n saff.

Wrth wersylla yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn un haf, trefnwyd taith gerdded i ben mynydd Aran Benllyn. Cychwynnwyd allan yn fore trwy bentre Llanuwchllyn ac i gyfeiriad Dinas Mawddwy, cyn troi o’r ffordd fawr ac i lethrau’r mynydd ei hun. Doedden ni ddim wedi cerdded yn bell iawn cyn i un o’r merched oedd yn y criw achwyn fod ei thraed yn brifo wrth gerdded dros gerrig garw. Chafodd hi fawr o gydymdeimlad na chysur gan y swyddog oedd yn arwain y daith y bore hwnnw. ‘Wel, am eneth ffôl,’ meddai, ‘yn mentro i ben mynydd mewn pymps (sgidiau meddal). Mi fydde’n ffitiach pe byddech wedi gwisgo esgidiau mwy addas.’ ‘Ond wyddwn i ddim fod yn rhaid ymgodymu â meini a chreigiau,’ medde hithau. ‘Mae’r rheini’n rhan annatod o’r daith, ’ngeneth i,’ meddai’r swyddog, ‘dros y rheini mae’n rhaid dringo.’

A dyna i chi ddweud trawiadol – mae’n siŵr i’r eneth ddysgu’r wers, gan na chlywsom yr un smic o’i genau weddill y daith.

Mae honno’n wers sy’n rhaid ei dysgu mewn perthynas â bywyd hefyd, oherwydd fe ddaw hwnnw â’i siâr o feini tramgwydd a rhwystrau i’n rhan, a chyfrinach cyrraedd pen draw’r daith fydd yr adnoddau fydd gennym i’w goresgyn.

Rwyf wedi darllen mwy o lyfrau yn ystod yr wythnosau diwethaf nag y byddwn wedi’i wneud yn arferol ac ambell fywgraffiad yn eu plith a’r rheini’n sôn am bobl a lwyddodd, trwy eu dygnwch a’u dyfalbarhad, i gyrraedd y brig. Ond bron yn ddieithriad fe ddarganfyddwn na fu’r daith i ben y mynydd yn ddi-rwystr, a bod yna feini mawrion ambell dro y bu’n rhaid ymgodymu â nhw a dringo drostynt.

Does dim rhaid i ni ddarllen yn bell iawn cyn darganfod na fu hi’n wely rhosod yn hanes nifer o’r cymeriadau sy’n ymddangos yn stori’r Ffydd ychwaith.

Roedd Abraham yn hen ŵr pan gychwynnodd yntau ar ei daith o Ur y Caldeaid. Mae’n gadael o’i ôl warant a diogelwch, esmwythdra a sicrwydd, ac fe sylweddolwn o ddarllen y stori na fu’r daith honno heb ei hanawsterau. Bu’n rhaid iddo ymgodymu ag ambell batshin digon garw ar ei ffordd ac ambell brofiad a fyddai wedi peri i lawer un daflu’r tywel i mewn. Ond fe ddaliodd ati gan ymddiried yn addewidion Duw a’i arweiniad.

Roedd pâr go ddeche o sgidje am draed Joseff hefyd, oherwydd fe fu’n rhaid iddo yntau ddringo ambell faen go arw yn ystod ei yrfa. Fel y cofiwn, cafodd ei sbwylio gan ei dad, ei gasáu gan ei frodyr, ei werthu i gaethiwed, ei daflu i garchar a’i anghofio. Ond ar waetha’r cyfyngiadau fe ddaliodd i ymddiried yn adnoddau a darpariaeth Duw a dringo dros y rhwystrau a dod maes o law yn llywodraethwr dros holl adnoddau gwlad yr Aifft.

Y mae Salm 91 yn ein hatgoffa fod ‘y sawl sy’n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog, yn dweud wrth yr Arglwydd: “Fy noddfa a’m caer ydwyt ti, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.”’ Mae’r salm yn canoli ein sylw ar ofal a darpariaeth Duw. Ef yw’r un sy’n abl i’n gwarchod a’n cynnal, beth bynnag ddaw i’n rhan. Ac yn y salm hon ma’na gyfarwyddyd ynglŷn â hen gerrig mawr a chreigiau a fydd yn rhwystr ar y ffordd – ‘Oherwydd rhydd orchymyn i’w angylion i’th gadw yn dy holl ffyrdd; byddant yn dy godi ar eu dwylo rhag i ti daro dy droed yn erbyn carreg’ (adn. 11). Mae Duw yn abl i droi’r cerrig tramgwydd a’r meini rhwystr yn gerrig camu wrth i ni ddringo’n uwch.

Yn un o gomic-strips Peanuts gan y cartwnydd Charles Schultz, mae Charlie Brown yn reit ddiflas fod ei dîm ef yn colli o hyd, ac medde Lucy wrtho fe, mewn ymgais i godi ei galon: ‘Cofia, Charlie Brown, ein bod yn dysgu mwy o’n colledion nag o’n henillion.’

‘Os yw hynny’n wir,’ atebodd Charlie Brown, ‘mae’n rhaid taw fi yw’r boi clyfra yn y byd.’

Addewid Gair Duw yw y bydd Ef yn darparu adnoddau i’n cynnal a nerth i oresgyn y rhwystrau. ‘Da yw’r Arglwydd fel amddiffynfa yn nydd argyfwng; y mae’n adnabod y rhai sy’n ymddiried ynddo.’ (Llyfr Nahum 1:7)

Yng nghroes Crist y gorfoleddaf,
croes uwch difrod amser yw;
Yn ei llewyrch pur y gwelaf
holl gyflawnder gras fy Nuw. (efel. George Rees)

Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

DARLLENIADAU: Genesis 15:1–6; 42:1–6; Salm 91; Mathew 6:25–34

GWEDDI:

Hollalluog Dduw, ti yw ein tŵr cadarn, ein hamddiffynfa a’n nerth.

Am y grym a’n creodd, am y gras sydd yn ein cynnal, ac am y cariad sy’n cylchu o’n cwmpas ac yn ein cadw, cyfeiriwn glod a gogoniant i’th enw. Amen.

GWEDDI’R ARGLWYDD