Geiriau i’n Cynnal 10: ‘Ffarwél’

Geiriau i’n Cynnal 10: ‘Ffarwél’

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

Sul, 24ain Fai, 2020

[Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.]

GEIRIAU I’N CYNNAL 10: ‘Ffarwél’

Anwyliaid yr Anwel,

Ma’n nhw’n dweud, i bob dechreuad fod ’na derfyn maes o law,
A thu ôl i’r haf a’i heulwen fod ’na ’aea’n celu draw;
Yng ngorfoledd pob dydd geni, ma ’na dristwch diwedd oes
A’n profiadau yn cwmpasu dyddiau llon a dyddiau croes.
Pan y seinir yr agorawd, ymhen dim daw’r sioe i ben
A phob brawddeg gychwyn drama yn arwyddo tynnu’r llen;
Ni fyddai aur yn werthfawr oni bai fod hwnnw’n brin,
A bywyd heb ei ddyfnder, pe bai pob dydd yn wyn.
Rhaid derbyn fod pob pennod â’i chlo ymhen rhyw sbel,
A phob helô’n acennu, yn anorfod, ein ffarwél.
(addasiad PMT o gân Roger Whittaker)

Gorchwyl anodd ar y gore fydd ffarwelio – boed hynny wrth droi i’n taith a rhannu’r dyhead o gael cyfarfod eto, neu pan fydd amgylchiadau bywyd yn corddi’r emosiwn a thynnu deigryn i’r llygad a hiraeth i’r galon.

Tybed faint ohonoch a gofiodd fod dydd Iau diwethaf yn Ddydd Iau Dyrchafael – y dydd y cofiwn i Iesu Grist ffarwelio â’i ddisgyblion cyn iddo ddychwelyd i’r nef.

Mae Luc yn cloi ei Efengyl gyda’r geiriau hyn: ‘Aeth â hwy allan i gyffiniau Bethania. Yna wedi iddo eu bendithio, ymadawodd â hwy, ac fe’i dygwyd ef i fyny i’r nef. Wedi iddynt ei addoli ar eu gliniau, dychwelsant yn llawen iawn i Jerwsalem. Ac yr oeddent yn y deml yn ddi-baid, yn bendithio Duw.’

Pe digwydd i chwi ddringo i gopa Mynydd yr Olewydd heddiw mi fyddech yn sylwi fod yna eglwys wedi ei chodi yno i ddynodi’r fan yr esgynnodd Iesu i’r nef ac yn y graig y ma’na ôl troed – ôl troed Iesu, yn nhyb rhai. Rwy’n cofio i mi ar un amgylchiad, pan yn ymweld â’r lle, osod fy nhroed inne yn yr ôl troed hwnnw, a synhwyro rhyw wefr wrth wneud: ‘Arglwydd Iesu, dysg im gerdded trwy y byd yn ôl dy droed.’

Mae’r Dyrchafael yn llwyddo i gau un gyfrol ac agor cyfrol newydd yn Stori’r Ffydd. Gyda’r Dyrchafael y daw Efengyl Luc i’w therfyn a chyda’r Dyrchafael y mae Llyfr yr Actau yn agor ei stori gyffrous.

Yn ystod fy arddegau fe brynodd fy rhieni feic Hercules du o siop ail-law Hallets yn Llanelli, er mwyn i mi i feicio’r cetyn hanner milltir o’r clos i ben draw feidr ein fferm i ddal y bws i’r ysgol.

Mi fues i am hydoedd yn rhyw straffaglan i gadw’r balans a ’nhad yn gafael yn y sêt a rhedeg y tu ôl i mi. Fe syrthiais lawer gwaith a sgathru fy mhengliniau cyn i’r diwrnod hwnnw ddod pan lwyddais o’r diwedd i gyflawni’r gamp.

Cychwynnwyd fel arfer – fy nhad yn gafael yn y sêt ac yn rhedeg y tu cefn i mi a minnau’n pedlo’n wyllt. Bob hyn a hyn mi fyddwn yn bwrw golwg dros fy ysgwydd i wneud yn siwr fod fy nhad yno, ond wedi pedlo i ben draw’r clos ac i fyny’r ffordd dyma fi’n rhoi sgwint am nôl a chanfod nad o’dd fy nhad yno, ro’dd wedi gollwng ei afael ers tipyn, ond ro’n i’n dal i fynd a’r gamp o reidio’r beic bellach wedi ei meistroli.

Mae’r Dyrchafael yn nodi terfyn ar weinidogaeth ddaearol Iesu Grist – y man lle mae yntau’n llacio’i afael ac yn ein gadael i fynd.

Bu’r deugain diwrnod rhwng Atgyfodiad Iesu a’i Ddyrchafael yn gyfnod paratoi yn hanes ei ddisgyblion. Dyma gyfnod y datguddio mynych, yr ymddangosiadau lluosog, y dweud cynnil a’r dwyn ar gof eiriau ac addewidion gweinidogaeth Iesu.

Trwy gydol y weinidogaeth honno ef oedd yr ysgwydd iddynt bwyso arni’n gyson, ef oedd yr un iddynt guddio y tu ôl iddo yn wyneb beirniadaeth, argyfwng a storm. Ond bellach daeth yn amser iddynt fabwysiadu’r hyder i fentro eu hunain. Mae Iesu’n datod y rhaffau a gadael i’w cychod fentro i’r dwfn heb ei fod ef yno ar y bwrdd i gyfarwyddo’r digwydd.

Mae’r gwneud yn adlais o eiriolaeth Iesu dros ei ddisgyblion mewn goruwchystafell. ‘Fel yr anfonaist ti fi i’r byd, yr wyf fi yn eu hanfon hwy … er mwyn i’r byd gredu mai tydi a’m hanfonodd.’ (Ioan17: 18–21)

Efallai ein bod ni, fel y disgyblion hynny ’slawer dydd, wedi cyrraedd rhyw fan yn ein bywyd Cristnogol lle ryn ni’n reit fodlon ar bethe. Ryn ni wedi llwyddo i godi ffrâm, a rhoi o’i mewn yn ddestlus-deidi ein ffydd a’n cred a’n cyffes ac yn hapus i gario ymlaen heb adael i ddim herio’r sefydlogrwydd hwnnw.

Y perygl wrth wneud yw inni golli’r disgwyliad a’r newydd-deb wrth i’r blynyddoedd gerdded ac wrth i’r sefyllfa fynd yn gyfarwydd. Gweld ein hyfory yn sownd wrth heddi a ddoe, yn hytrach na’i weld yn ei gyfle a’i bosibiliadau newydd. Mae llawer un wedi holi sut fydd pethau wedi i’r coranafirws leddfu a’i bod yn amser dychwelyd – onid yr her fydd inni fentro i wneud pethe’n wahanol yn hytrach na mynd nôl i’r union sefyllfa yr oeddem ynddi cynt?

Y mae’r Dyrchafael yn ein hatgoffa fod Iesu yn un sy’n medru datod y props a herio’n rhagdybiaethau. Yn ein galw i fod yn dystion iddo yn y byd ac yn addo ei Ysbryd i gyfeirio’n cenhadaeth.

Ar lethrau mynydd yr Olewydd y dwthwn hwnnw gwelwyd un bennod yn cau – mae Iesu’n codi ei ddwylo, yn eu bendithio ac yn ymadael â hwy ac yna, meddai’r cofnod, ‘dychwelodd y disgyblion yn llawen iawn i Jerwsalem’, oherwydd yr oeddent yn rhannu’r argyhoeddiad fod yna bennod newydd ar fin agor ac addewid rhyfeddol i’w ganfod. ‘A chwi a dderbyniwch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddod arnoch a byddwch yn dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea a Samaria a hyd eithaf y ddaear.’ A chyda’r un hyder, yr un disgwyliad a’r un sicrwydd fe fentrwn ninnau ymlaen gyda’n llygad ar Bentecost a’i addewid grymus o’r Ysbryd sy’n bywhau a chyfeirio’n bywyd.

Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, ledia’r ffordd
bydd imi’n niwl a thân;
ni cherdda’ i’n gywir hanner cam
oni byddi di o’m bla’n.

Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

DARLLENIADAU: Luc 24: 50–53; Llyfr yr Actau 1: 1–11; Ioan 17: 6–21

GWEDDI:

Arglwydd, ein gobaith a’n nerth, ynot ti yr ymddiriedwn. Helpa ni i ymdawelu a gwybod mai tydi sydd Dduw.

Llonydda ein meddyliau er mwyn i ni synhwyro dy bresenoldeb, llonydda ein gofidiau a’n hofnau a phâr i ni brofi dy hedd. Mewn tawelwch helpa ni i eiriol dros eraill. Yn y dyddiau anodd hyn, Arglwydd, estyn dy ymgeledd i’r rhai sy’n gystuddiol ac unig, yn dlawd a digartref. Cofia am y rhai sy’n dioddef effeithiau’r haint sydd ar gerdded ac estyn dy gymorth i’r rhai sy’n gweini ac yn gofalu amdanynt. Cofia am deuluoedd yn eu galar, ma’na gymaint ohonynt yn eu hiraeth am fod cymaint wedi marw dros y misoedd diwethaf hyn o ganlyniad i’r haint. Estyn iddynt dy gysur a’th dangnefedd a chofleidia hwy yn dy gariad.

Bendithia ni a’n hanwyliaid a chylcha o’n cwmpas, gwrando ein gweddi yn enw Iesu Grist ein Harglwydd a’n Gwaredwr. Amen.

Gweddi’r Arglwydd