Geiriau i’n Cynnal 14: Dwylo

Geiriau i’n Cynnal 14: Dwylo

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

Sul, 21ain Mehefin, 2020

GEIRIAU I’N CYNNAL 14: Dwylo

Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.

Anwyliaid yr Anwel,

Ychydig dros wythnos yn ôl roeddwn yn gwasanaethu mewn angladd perthynas imi yn Llansadwrn. Oherwydd y cyfyngiad ar y niferoedd a’r gwaharddiad i gyfarfod mewn adeilad, cynhaliwyd yr oedfa ar lan bedd yn yr awyr agored a deg yn unig o’r teulu yn bresennol. Do’dd dim modd cofleidio nac ysgwyd llaw fel arwydd o’n cydymdeimlad ac yr oedd rhyw chwithdod rhyfedd yn hynny.

Sut fydden ni wedi ymdopi heddiw sgwn i, heb ddefnydd ein dwylo wrth inni fynd ati i gyflawni gorchwylion ein byw bob dydd? Ac yna pe byddem ond am ennyd yn ystyried yr holl y mae’n dwylo wedi eu trafod, eu llunio a’u gwneud tros y blynyddoedd – onid yw’r peth yn rhyfeddol?

Pethe diddorol yw dwylo; maent yn amrywio o ran siâp a golwg, rhai’n feddal, eraill yn gryf – yn ddigon tyner i fagu baban ac yn ddigon cyhyrog i gymysgu sment. Medrant greu celfyddyd a saernïo crefft, medrant gadarnhau’n siarad, ategu’n penderfyniad a mynegi’n gwerthfawrogiad. Pan fydd ein geiriau’n methu, mi fydd cydiad llaw yn ddigon i gyfleu’r hyn sydd mewn meddwl a chalon. Mae iddynt hefyd y gallu i gau’n ddwrn mewn dicter ac ymosodiad.

Ar garreg fedd fy nhad a’m mam y mae’r cwpled hwn:

Y rhai hyn o gysgod y gro
fu â’u dwylo’n anwylo.

Pan fydda i’n edrych ar fy nwylo mi fyddaf yn ymwybodol o rai o’r creithiau sy’n dal yno a hynny flynyddoedd wedi’r archoll a’u creodd.

Wrthi’n ceisio torri darn o gortyn gyda bilwg ryw fore pan o’n i oddeutu deg mlwydd oed, yn methu’r cortyn a chymryd sleisen o dop fy mys – ond er bod y bys wedi hen wella mae’r graith yn dal yno.

Cael llawlif newydd yn anrheg Nadolig gan Meryl, y cyntaf a’r olaf, gan i mi dreulio trannoeth dydd Nadolig y flwyddyn honno yn Uned Ddamweiniau Bronglais. Mae’r anaf wedi gwella ond mae’r graith yn dal yno.

Pan ymddangosodd Iesu Grist gerbron ei ddisgyblion mewn goruwchystafell drannoeth y Pasg dangosodd iddynt ei ddwylo, dwylo ac arnynt ôl creithiau – creithiau’r hoelion, creithiau’r dioddefaint, creithiau’r waredigaeth.

Meddai John Roberts, Llanfwrog, yn ei emyn grymus:

O tyred i’n gwaredu, Iesu Da,
fel cynt y daethost ar dy newydd wedd,
a’r drysau ’nghau, at rai dan ofnus bla,
a’u cadarnhau â nerthol air dy hedd:
llefara dy dangnefedd yma nawr
a dangos inni greithiau d’aberth mawr.

Mae’n siŵr gen i fod dwylo Iesu Grist yn rhai cwbl arbennig – gallwn ond dychmygu sut rai oeddynt.

O gofio iddo dreulio rhan helaetha’i fywyd mewn siop saer, mae’n dra thebygol taw dwylo cryfion oeddynt, dwylo ac arnynt ôl creithiau ambell lithriad gaing neu lif neu forthwyl – dwylo garw rôl trafod coed trymion ac offer gwlad, dwylo gwaith, dwylo celfydd crefftwr fu’n trin a morteisio coed.

Ac eto dyma’r dwylo sy’n cyffwrdd ac yn dod yn gyfrwng bendith ac iachâd i gynifer.

Mae’n rhyfedd meddwl fod ’na dros gant o gyfeiriadau penodol yn y Testament Newydd sy’n dweud i’r Arglwydd Iesu gyffwrdd pobl â’i ddwylo.

Gwelwyd y dwylo hynny’n bendithio, fel yn hanes y plant a ddygwyd ato un tro, ac er i rai o’r disgyblion geisio eu gwahardd, dywedodd Iesu: “‘Gadewch i’r plant ddod ataf fi a pheidiwch â’u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y perthyn teyrnas nefoedd.” Ac wedi rhoi ei ddwylo arnynt aeth oddi yno.’ (Mathew 19:14–15)

Dwylo’n iacháu wedyn – o’r cyfeiriadau mynych at yr Arglwydd Iesu yn iacháu, boed yn hanes unigolyn neu’n griw o bobl, y mae cyffyrddiad ei ddwylo yn gyfrwng amlwg yn y digwydd. Pan oedd yng Nghapernaum un tro, yn ôl tystiolaeth Luc (4:40), darllenwn: ‘Ar fachlud haul daethant â chleifion a oedd yn dioddef o amrywiol afiechydon, a gosododd yntau ei ddwylo ar bob un ohonynt a’u hiacháu.’

Yn hanes y dyn gwahanglwyfus hwnnw ym mhennod agoriadol Efengyl Marc darllenwn i Iesu ‘gymryd tosturi arno ac estynnodd ei law a chyffwrdd ag ef a dywedodd wrtho, “Bydd lân”.’ (Marc (1:41).

Dwylo’r gwyrthiau wedyn: byddai pum torth haidd a dau bysgodyn yn ein dwylo ni yn ddigon i baratoi llond plât o frechdanau mae’n siwr, ond yn nwylo Iesu Grist yn ddigon o gynhysgaeth ar gyfer tyrfa o bum mil. A phan redodd y gwin allan mewn gwledd briodas yng Nghana un tro, llwyddodd ei ddwylo gwyrthiol i droi’r dŵr yn win a hwnnw o ansawdd arbennig.

Yna pan drown i ddarllen am ddigwyddiadau rhyfeddol y Pasg, sylweddolwn taw ôl hoelion mewn dwylo oedd un o brif gyfryngau argyhoeddiad a chred y disgyblion cynnar gan roi iddynt y sicrwydd fod yr atgyfodiad wedi digwydd a bod Iesu Grist yn fyw.

Fe gofiwn iddo ddod trwy ddrysau cloëdig a dweud: ‘Tangnefedd i chwi. Peidiwch ag ofni, myfi yw; yna dangosodd iddynt ei ddwylo.’ (Ioan 20:20). Mae’r ddau ar y ffordd i Emaus yn canfod yr un dwylo’n torri’r bara ac yn teimlo’u calonnau yn llosgi. Mae Tomos, a oedd yn absennol y tro cyntaf i Iesu ymddangos, yn ei chael hi’n anodd credu nes iddo weld â’i lygaid ei hunan ôl yr hoelion yn y dwylo: ‘Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, ni chredaf i byth.’ O fewn yr wythnos mae’r amheuwr yn tystio gyda’r gweddill – ‘Fy Arglwydd a’m Duw …’ ac y mae Iesu Grist yn dweud wrtho: ‘Edrych ar fy nwylo, estyn dy law a chyffwrdd a phaid â bod yn anghredadun – bydd yn gredadun.’

Yng nghyfieithiad Dafydd Owen o emyn Margaret Cropper cawn ein hatgoffa taw:

Dwylo ffeind oedd dwylo Iesu ymhob man,
yn iacháu y cleifion a bendithio’r gwan;
golchi traed blinedig, dal rhai isa’r byd,
dwylo ffeind oedd dwylo Iesu Grist o hyd.

Yn 1669, a hynny o fewn dwy flynedd i’w farw, peintiodd yr artist Rembrandt ddarlun olew yn dwyn y teitl ‘Dychweliad y Mab Afradlon’. Y mae’n ddarlun diddorol ac yn bortread o’r ddameg gofiadwy honno yn y Testament Newydd. Y person canolog yn y darlun yw’r tad sy’n croesawu ei fab afradlon adref o’r wlad bell lle y gwastraffodd yr hyn a roddwyd iddo. Ond o sylwi yn fwy manwl ar y darlun, ac yn arbennig ar ddwylo’r tad sy’n cydio ac yn cofleidio, fe welwch fod y ddwy law yn wahanol rywsut. Y mae un llaw yn edrych yn fwy garw na’r llall – mae’r bysedd yn fwy llydan rywsut ac mae ôl creithiau arnynt – tra bod y llaw arall yn fwy llyfn a thyner yr olwg, fel llaw mam. Ond rywsut y mae’r dwylo, er yn wahanol i bob ymddangosiad, yn bortread o ofal a chonsýrn Duw amdanom – yn ddigon cadarn i’n cynnal, yn ddigon tyner i’n cofleidio.

Yn Eglwys Gadeiriol Lerpwl ma’na un ffenestr liw sy’n dwyn amlygrwydd i wragedd enwog: Florence Nightingale, Susanna Wesley, mam John a Charles Wesley, Josephine Butler, y weithwraig gymdeithasol, ond yn eu plith y ma’na un wraig lai adnabyddus na’r gweddill. Ei henw – Kitty Wilkinson, a’i champ – gweinidogaeth ei dwylo. Fe’i cofir am iddi estyn cymorth ac ymgeledd i’r rhai a oedd yn dioddef o’r colera ar lannau Merswy. Y dwylo fu’n gwasanaethu yn cael amlygrwydd mewn ffenest liw cadeirlan.

Wrth inni edrych ar ein dwylo beth am inni holi – beth all y dwylo hyn ei wneud i ledaenu tystiolaeth a chenhadaeth eglwys Iesu Grist? Ac yna, wrth inni roi ein dwylo ynghyd mewn gweddi i ofyn i Dduw gysegru’n dwylo yn gyfryngau gwasanaeth yn enw Iesu Grist:

Cymer di fy nwylo, Arglwydd Iesu nawr,
gwna hwy’n gryf i rannu caredigrwydd mawr;
gad i mi dy wylio, Iesu, ar fy nhaith,
nes troi’n ffeind fy nwylo innau yn dy waith.
Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

DARLLENIADAU: Diarhebion 31:20; Salm 90:17; Rhufeiniaid 12:1–2

GWEDDI:

O Dad, diolchwn am ddwylo sy’n gweini, yn gofalu ac yn estyn i gynifer yn ystod y dyddiau anodd hyn ymgeledd a gwellhad. Diolchwn i ti O Dad am ein dwylo ni. Cysegra hwy yn dy waith ac yng ngwasanaeth ein cyd-ddyn.

‘Cymer di fy nwylo’n rhodd fyth i wneuthur wrth dy fodd.’   Amen.

GWEDDI’R ARGLWYDD