Sul, 10fed Fai, 2020
GEIRIAU I’N CYNNAL 8: ‘Disgwyl’
[Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.]
Anwyliaid yr Anwel,
Odd y diwarnod yn hir
rhwng sŵn y botel lâth
a phan âth yr hewl i gysgu.
Odd e fel cylionen ar ffenest
yn cymryd i hamser
i hogi blinder i thrâd
rhwng pob cam.
Alwodd neb ddim.
Fel yna y mae cerdd D. Jacob Davies, ‘Unigedd’ yn cychwyn, cerdd sy’n rhoi mynegiant i’r syniad o ddisgwyl – disgwyl i rywun alw, a’r siom fod neb yn gwneud. Mae’n siwr fod y cyfnod hwn a’i waharddiad i bobl alw yn llwyddo i ddwysáu’r unigedd hwnnw ym mhrofiad llawer un. Efallai, wrth i chwi ddarllen y myfyrdod hwn, y daw rhywrai i’ch meddwl sy’n profi’r unigrwydd hwnnw, rhywrai a fyddai wrth eu bodd yn derbyn galwad ffôn neu neges testun gennych.
Hon yw’r seithfed wythnos ers i’r Llywodraeth gyflwyno mesuriadau cau-lawr – y lockdown – a’n hannog i aros i mewn, i gadw’n saff ac arbed bywydau, ac er bod y cyfyngiad hwnnw yn brofiad chwithig a rhwystredig, mae’n amlwg ei fod wedi bod yn ystyriaeth bwysig yn y frwydr o rwystro lledaeniad yr haint.
Ar waetha’r cyfyngiadau hynny, bu’r cyfnod yn fodd i ennyn ysbryd o gymwynasgarwch a charedigrwydd amlwg. Profwyd dyfeisgarwch anghyffredin wrth lenwi’r oriau segur a llwyddodd ymdrechion glew pobl fel Captain Tom i gydio yn nychymyg pobl ac esgor ar haelioni rhyfeddol. Bu’r negeseuon dros y we a’r rhwydweithiau cymdeithasol yn fodd i godi ysbryd a chadw cyswllt ac rwy’n ddyledus i’r rhai sydd yn fy nghynorthwyo gyda dosbarthu’r pytiau hyn yn y gobaith eu bod yn eiriau i’n cynnal mewn dyddiau anodd.
Dywedwyd wrthym fod yr haint bellach wedi croesi’r brig ond, oherwydd ei bod yn anodd darogan sut fydd pethe’n datblygu o lacio’r canllawiau a’r ofn y medr ail don o’r firws godi, fe erys mesur o ansicrwydd ar sut i ymlwybro ymlaen. Felly, mi fydd yn rhaid bod yn amyneddgar wrth aros a disgwyl. ‘Hir yn wir yw pob aros.’
Gwyddom i gyd, mae’n siwr, am y profiad o dreulio amser mewn ystafelloedd aros, boed hynny yn syrjeri’r doctor neu’r deintydd, a llawer man arall o ran hynny. ‘Bydd yn rhaid i chi eistedd a disgwyl eich tro!’ Efallai fod tuedd ynom i ystyried y cyfnodau a dreulir mewn ystafelloedd o’r fath yn wastraff amser wrth inni fyseddu drwy hen gylchgronau am yn ail â llygadu bysedd trwm y cloc yn rhyw lusgo symud.
Ond mewn gwirionedd y mae llawer iawn o’n bywyd ni bellach ynghlwm wrth y busnes yma o aros a disgwyl.
Disgwyl i’r peth nesaf ddigwydd, i’r dasg nesaf gael ei chyflawni, i’r garreg filltir nesaf gael ei chyrraedd, ac efallai ein bod wedi ein cyflyrru i feddwl mai dyna yw’r pethe pwysig – ein cyflawni a’n gwneud, munudau gorchest a llwyddiant. Ond er mor arwyddocaol yw’r munudau hynny ma’na gymaint mwy o funudau rhyngddynt sy’n Funudau Disgwyl, a’r rheini yn amal sy’n llywio ein cymeriadau mewn gwirionedd.
Fe aeth yr Eglwys Fore drwy gyfnod cyffelyb, ond do? Cyfnod disgwyl oedd hwnnw rhwng Pasg a Phentecost – ‘Arhoswch yn y ddinas hyd nes i chwi dderbyn addewid y Tad.’ Dyna yw tystiolaeth adnodau agoriadol Llyfr yr Actau yn y Testament Newydd.
Cyfnod a gychwynnodd gyda’r newydd rhyfeddol fod Iesu Grist wedi atgyfodi’n fyw o’r bedd – fod marwolaeth wedi ei drechu a bod goleuni yn drech na phob tywyllwch.
Dyma gyfnod y datguddio mynych – yr ymddangosiadau lluosog. Mae’n ymddangos i Mair mewn gardd – i deithwyr Emaus ar hyd y ffordd – i ddeg disgybl mewn goruwchystafell – ac yna, o fewn yr wythnos, i’r un ar ddeg, a Tomas, a gollodd yr oedfa gyntaf, bellach ymhlith y cwmni. Mae’n troi wedyn i Galilea ac yn cyfarfod â rhai ar lethrau mynydd ac yn canfod fod yna amheuwyr ac anghredinwyr yn eu plith. Ac yna ar lan môr Tiberias mae’n ymddangos yn y bore bach i saith pysgotwr aflwyddiannus sydd wedi bod mas yn pysgota drwy’r nos, ond heb ddal dim. Ac yna, yn ôl un cofnod, fe ymddangosodd i bum cant o bobl ar unwaith. Digon o brawf fod yr atgyfodiad wedi digwydd a’i fod ef yn fyw.
Dyma gyfnod y dweud cynnil a’r dwyn i gof eiriau ac addewidion gweinidogaeth Iesu. Dyma gyfnod y paratoi a’r magu hyder – y rhannu cyfeillach mewn goruwchystafell a theml – y dyfalbarhau mewn gweddi.
Nid cyfnod segur oedd y cyfnod hwn ond cyfnod disgwyl gwireddu addewid. ‘A chwi a dderbyniwch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddod arnoch a byddwch yn dystion i mi.’
Ynghanol dyddiau anodd ac ansicr bydded i ni brofi yr un addewid, yr hyder i ddal ati a chwmni’r Crist yn ymgeledd inni. Beth bynnag fydd gan yr yfory i’w gynnig daliwn i ddisgwyl, daliwn i gredu.
Gyda’m cofion cynhesaf, Peter
DARLLENIADAU:
Habacuc 2:1–4; Llyfr yr Actau: 1:1–8
Dyrchafaf di, fy Nuw a bendithiaf dy enw’n dragwyddol, bob dydd bendithiaf di am mai graslon a thrugarog ydwyt ac yn llawn ffyddlondeb. Dy ddaioni sydd at bawb, a’th drugaredd ymhob agwedd o fywyd. Trown atat gyda llygaid gobaith gan dy fod yn darparu’n gyson ar ein cyfer – y mae dy law agored yn diwallu ein holl angen. Yr wyt yn gyfiawn yn dy holl ffyrdd ac yn ffyddlon yn dy holl weithredoedd. Yr wyt yn tynnu’n agos at bawb sy’n galw arnat ac at bawb sy’n galw arnat mewn gwirionedd. Bendithiaf dy enw’n dragwyddol. (Salm 145)
GWEDDI:
Pan fwyf yn teimlo’n unig lawer awr
heb un cydymaith ar hyd llwybrau’r llawr
am law fy Ngheidwad y diolchaf i
a’i gafael ynof er nas gwelaf hi.
Pan fyddo beichiau bywyd yn trymhau
a blinder byd yn peri im lesgáu,
gwn am y llaw a all fy nghynnal i
a’i gafael ynof er nas gwelaf hi. (John Roberts)
Cynorthwya ni yn nhawelwch y munudau hyn i ymddiried ynot a phrofi cadernid dy law.
Y llaw sy’n cysgodi, yn cynnal, yn tywys. Cylcha o’n cwmpas â’th lân Ysbryd a chadw ni’n ddiogel yng nghelwrn dy law.
Ymafla ynom ac arwain ni, wrth inni ymuno â’th bobl ymhob man i’th addoli di, ein Harglwydd a’n Gwaredwr.
Cofia am bawb a garai gael rhan yn ein gweddïau, yr unig a’r anghenus, y rhai sy’n profi lludded ac afiechyd, pryder a thristwch. Cofia am y rhai sy’n gweini ac yn gofalu mewn ysbytai a chartrefi gofal. Estyn iddynt dy gymorth a’th ras, dy nerth a’th gysur. Crea ynom ddisgwyliad am dy gwmni, gwarchod a chynnal ni i ryngu dy fodd. Amen.