14eg Mehefin, 2020
GEIRIAU I’N CYNNAL 13: ‘Cymeradwyaeth’
Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.
Anwyliaid yr Anwel,
Ers pythefnos bellach rhoddwyd heibio’r arfer o guro dwylo i gymeradwyo ymdrech gweithwyr iechyd a gweithwyr y gwasanaethau hanfodol yn y frwydr i ddileu lledaeniad haint y Coronafirws.
Bob nos Iau yn selog am wyth o’r gloch roedd deiliaid tai’r gymdogaeth hon, fel llawer cymdogaeth arall ar hyd ac ar led y wlad, yn dod allan i guro dwylo neu daro sosbannau i ganmol ymdrech ac ymroddiad.
Roedd y weithred yn fynegiant ymarferol o’n gwerthfawrogiad ac o’n hymddiriedaeth hefyd ac er bod yr arfer wedi peidio bellach, mae’n diolch a’n hedmygedd yn parhau.
Mae’n rhyfedd fel y bydd argyfwng weithiau yn llwyddo i adlewyrchu rhinweddau nad ydynt mor amlwg mewn sefyllfaoedd arferol. Un o ganlyniadau cadarnhaol y cloi i lawr dros y deufis diwethaf yw’r ysbryd hynaws a chymdogol y mae wedi ei feithrin. Amlygwyd haelioni, caredigrwydd a chonsýrn ym mharodrwydd pobl i wirfoddoli a chynorthwyo eraill.
Rwy’n dra dyledus i’r rhai sy’n cynorthwyo i osod y myfyrdodau wythnosol hyn ar y We ac am gymorth eraill i’w dosbarthu ymhlith aelodau’r eglwysi wrth iddynt ddod yn bostmyn newyddion da. Mawr yw fy niolch iddynt.
Y mae’r Apostol Paul ym mhennod glo ei Lythyr at y Rhufeiniaid yn cyfarch unigolion a fu o gymorth iddo yn ei yrfa a’i weinidogaeth; y mae cyfran helaeth o’r ddau ddwsin a enwir ganddo yn wragedd. Ac ar frig y rhestr, fel petai, y mae gwraig o’r enw Phebe, a dyma a ddywedir amdani: ‘Yr wyf yn cymeradwyo i chwi Phebe ein chwaer – gweinidoges eglwys Cenchrea (eglwys ym mhorthladd dinas Corinth oedd Cenchrea, gyda llaw – eglwys mewn tref lan môr). Derbyniwch hi yn enw’r Arglwydd mewn modd teilwng o’r saint a byddwch yn gefn iddi …’
Y mae’r ychydig a wyddom am Phebe wedi ei grynhoi yn y ddwy adnod hyn ar gychwyn yr unfed bennod ar bymtheg o’r Llythyr at y Rhufeiniaid, ac eto, o’r cofnod cynnil hwnnw, y mae modd dirnad fod iddi bersonoliaeth hynaws a rhinweddau i’w canmol. Y mae beibl.net yn gosod y peth yn hyfryd: ‘Dim ond pethau da sydd gen i i’w dweud am Phebe …’ Dyna i chi deyrnged gymeradwy.
Yn wir, ystyr yr enw Phebe yw ‘disglair’, ‘llachar’, ac yn amlwg roedd bywyd hon yn adlewyrchu’r disgleirdeb hwnnw. Y mae’n arwyddocaol hefyd fod yna ddyddiad penodol yng nghalendr yr Eglwys i goffáu Phebe, sef y seithfed ar hugain o Ionawr.
Cyfeirir at Phebe yn yr adnodau hyn fel un barod ei gwasanaeth; diakonos yw’r gair yn y gwreiddiol ac mae hynny’n awgrymu bod i hon wyleidd-dra a diffuantrwydd, gan acennu’r cyfeiriad hwnnw yn yr Efengylau at yr Arglwydd Iesu ei hun – ‘Daeth Mab y Dyn nid i’w wasanaethu ond i wasanaethu.’ (Mathew 20:28)
Yn y pethau arferol y rhagorodd hon – yn y galwadau dyddiol a’r tasgau cyffredin, fe lwyddodd hon i gyflawni gweinidogaeth sylweddol. Gweinidogaeth wedi ei thymheru gan wasanaeth wrth iddi ymarweddu fel ei Harglwydd – dod yn Grist-debyg.
Nid i geisio statws a sylw ond i ddyfalbarhau mewn gwasanaeth.
Ma’na hanesyn am yr actor Charles Brookfield – un o’r rhai cyntaf i bortreadu’r cymeriad Sherlock Holmes ar lwyfan – iddo ar derfyn ei oes fod ar wyliau ar Ynys Wyth (Isle of Wight) pan y’i cymerwyd yn sâl. O fewn dim lledodd y stori ei fod wedi marw a’r diwrnod wedyn cyhoeddwyd ysgrif goffa iddo yn y papurau dyddiol. Wrth iddo orwedd yn ei wely, ac yntau, yn amlwg, yn dal yn fyw, darllenodd yr actor gyda chwilfrydedd yr hyn yr oedd pobl wedi’i ysgrifennu amdano. Dotiodd at un ymadrodd mewn ysgrif goffa yn y Telegraph: ‘Er nad yr actor mwyaf blaenllaw, roedd yn amhrisiadwy mewn rhannau bychain.’
Er na phrofodd Phebe amlygrwydd o gymharu â rhai o brif gymeriadau’r Testament Newydd, fe lwyddodd hon yn ei gweinidogaeth ac yn ei hymwneud bob dydd i gyfrannu golud amhrisiadwy a gwneud hynny mewn lleoliad digon anodd hefyd. Roedd maes gweinidogaeth hon yn dalcen digon caled, a dweud y lleiaf – eglwys Cenchrea, eglwys a sefydlwyd yn ardal y dociau yn ninas gosmopolitan Corinth. A medrwn dybied nad oedd hwnnw’n faes rhwydd gyda chymeriadau digon brith ymhlith yr aelodaeth ac amgylchiadau bywyd y bobl yn ddigon cyfyng.
Ond bu’r weinidogaeth honno a’i dygnwch hi yn fodd i beri i’r Apostol Paul ymddiried ynddi i gyflawni swyddogaeth ychwanegol a chyfrifol – sef bod yn negesydd y newyddion da, bod yn gyfrwng i ddwyn y llythyr hwn a ysgrifennodd ef yng Nghorinth oddeutu’r flwyddyn 57 O.C. i eglwys Rhufain.
Doedd dim modd i Paul roi’r llythyr mewn amlen a rhoi stamp arni a’i phostio – yn wir, doedd dim gwasanaeth post yn bodoli yn y cyfnod hwnnw, a bu’n rhaid iddo felly gael rhywun i gario’r llythyr drosto.
A dyna i chi gyfrifoldeb, oherwydd nid rhyw lythyr cyffredin mohono; roedd ei gynnwys â’r gallu i newid bywydau pobl. Cyfeiriwyd at Lythyr at y Rhufeiniaid fel un o epistolau godidocaf a phwysica’r Testament Newydd.
Roedd ei gynnwys yn rhannu hanfodion Efengyl Crist – sef bod yr Arglwydd Iesu wedi dod i gynnig bywyd i bwy bynnag a oedd yn fodlon ymddiried a chredu ynddo, a’i fod trwy ei aberth a’i fuddugoliaeth yn estyn inni faddeuant a gwaredigaeth – ac i Phebe y cyflwynwyd y cyfrifoldeb o gario’r cynnwys a’i drosglwyddo i aelodau eglwys Crist yn Rhufain.
Ond yn ogystal â’r llythyr hwn at y Rhufeiniaid y mae Paul hefyd yn llunio llythyr ychwanegol i’w gyflwyno, sef llythyr o gymeradwyaeth ac o gyflwyniad i’r un a gyflawnodd y ddyletswydd o gyrchu’r epistol ar ei ran.
Mewn cyfnod pan mae nifer o fewn ein cymdeithas yn adweithio i rai o arwyr amheus y gorffennol trwy alw am dynnu eu cerfluniau i lawr, boed inni ddyrchafu Phebe a’i thebyg – y rhai hynny trwy eu bywyd unplyg a’u gwasanaeth diflino dros achos Iesu Grist sy’n ennyn ein cymeradwyaeth a’n hymffrost.
Yr wyf yn cymeradwyo i chwi Phebe ein chwaer, gweinidoges eglwys Cenchrea. Derbyniwch hi yn enw’r Arglwydd mewn modd teilwng o’r saint a byddwch yn gefn iddi …
Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter
DARLLENIADAU: Rhufeiniaid: 16:1–2; Hebreaid 6:10–12; 1 Pedr 4: 8–10
GWEDDI:
Diolch i Ti Arglwydd am lygaid agored er mwyn inni dy ganfod di yn y cyffredin a’r arferol – ynghanol ein gwaith bob dydd, ei gyfrifoldebau a’i ddyletswyddau, yn ein gobeithion a’n dyheadau a chylchoedd beunyddiol ein byw. Yr oll yn gysegredig am dy fod Ti ym mhob dim yn cyfeirio a chyfoethogi.
Cynorthwya ni yn awr i synhwyro dy bresenoldeb a phrofi dy agosatrwydd. Bendithia ni – bwrw dy gysgod trosom a maddau i ni bopeth nad yw’n brydferth yn ein bywydau.
Pâr i ni arddel a dyrchafu enw Iesu, yr enw sydd goruwch pob enw, ac ymgysegru i’w waith a’i wasanaeth. Amen.
GWEDDI’R ARGLWYDD