Geiriau i’n Cynnal 9: ‘Cariad’

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

Sul 17eg Fai, 2020

GEIRIAU I’N CYNNAL 9:  ‘CARIAD’

[Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.]

Anwyliaid yr Anwel,

Fel llawer peth arall eleni roedd digwyddiadau Wythnos Cymorth Cristnogol yn wahanol i’r arfer. Bu rhaid hepgor y casgliadau o ddrws i ddrws, y boreau coffi, y ciniawau bara a chaws, y teithiau cerdded noddedig ac ati. Llwyddodd haint coronafirws i roi stop ar y gweithgaredd.

Ond yn ystod yr wythnos cawsom ein hannog i gofio am y gwaith ac i fod yn hael ein cyfraniadau.

Ni lwyddodd yr haint i ddileu yr ymdeimlad ein bod yn rhannu o’r un ddynoliaeth â phobl fwyaf anghenus y byd, na’n rhwystro rhag uniaethu â hwy yn eu sefyllfaoedd bregus. Cawsom ein hatgoffa taw Cariad yw’r grym sydd yn ein huno oll ar draws y byd ac yn rhan o’r rhwydwaith dirgel hwnnw, chwedl Waldo yn ei gerdd ‘Brawdoliaeth’, sy’n ‘cydio pob dyn byw; cymod a chyflawn we – Myfi, Tydi, Efe.’

Holwyd yr Arglwydd Iesu gan un o ysgrifenyddion y gyfraith un tro, pa un oedd y gorchymyn mwyaf, ac atebodd yntau: ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl ac â’th holl nerth … a châr dy gymydog fel ti dy hun.’ (Marc 12: 30–31)

Ymhlith atgofion dyddiau ysgol y mae’r cof o fod mewn dosbarth a Miss Thomas yr athrawes yn chwalu pren mesur ar fy nesg a tharanu yn fy nghlust yr un pryd: ‘The verb is the doing word – what is it?’ Atebais mewn llesmair: ‘The verb is the doing word, Miss.’ Ac fe gofiaf tra fyddaf beth yw swyddogaeth y ferf – hwnnw yw’r gair gweithredol.

A gair gweithredol yw cariad (‘agape’) yn y cyswllt hwn – gair sy’n galw am ein hymateb ni, ein parodrwydd ni i’w gyfeirio’n ymarferol at Dduw. Nid cariad sy’n deillio o deimlad ydyw ond cariad sy’n cael mynegiant mewn addoliad gorfoleddus, mewn gwasanaeth a chenhadaeth frwd. Yn yr un modd mae ein cariad at gyd-ddyn yn cael mynegiant yn ein parodrwydd i estyn llaw ac estyn cymorth.

Mae’r naill yn cael mynegiant ar i fyny, wrth i ni ddyrchafu enw’r Arglwydd, a’r llall ar draws yn ein cyswllt â’n cymydog, pwy bynnag y bo.

Y mae tuedd ynom i holi weithiau – pa wahaniaeth fedr fy nghyfraniad i ei wneud?

Pan oedd Jane Cross yn dathlu ei phen-blwydd yn gant oed, aeth ei gweinidog i’w gweld. Roedd Jane wedi treulio y rhan fwyaf o’i bywyd yn genhades yn ne-ddwyrain Affrica, ond ers rhai blynyddoedd bellach yr oedd yn derbyn ymgeledd mewn Cartref Gofal. Pan alwodd ei gweinidog i’w gweld fe gafodd groeso tywysogaidd ganddi a bu’r ddau yn sgwrsio dros baned a darn o’r gacen pen-blwydd ac yn gweddïo gyda’i gilydd.

Pan ddaeth yn amser i’r gweinidog adael, dywedodd Jane Cross wrtho fod ganddi broblem, a chan gyfeirio â’i bys at yr holl gardiau pen-blwydd a oedd yn addurno’i hystafell, dywedodd: ‘Ry’chi’n gweld rhain – mae pobl wedi bod yn garedig iawn yn danfon cyfarchion pen-blwydd. Ond yr oedd nifer o’r cardiau yn cynnwys mwy na chyfarchion – mewn nifer ohonynt yr oedd yna roddion, papurau pum punt a deg punt. Beth fedra’i wneud â’r arian? Mi fydde’n dda gennyf pe medrid ei ddefnyddio at ryw achos teilwng – yn enwedig gwaith yr eglwys yn Affrica.’

Rhoes y gweinidog gusan ar ei boch wrth adael gan addo y byddai’n ceisio datrys ei phroblem.

Pan gasglwyd arian y cardiau pen-blwydd ynghyd yr oedd yn agos i ddau can punt yno. Ysgrifennodd y gweinidog at yr eglwys yn Affrica lle y bu Jane Cross yn gweithio fel cenhades a gofyn iddynt beth yr hoffent iddo’i wneud â’r arian. Daeth yr ateb yn ôl: ‘Fe hoffem i chwi wneud i’r arian dyfu, a phan fydd digon, fe ddefnyddiwn ni’r arian i brynu tŷ bychan a’i osod ar rent, a chyda’r arian gellir sicrhau fod dau neu dri phlentyn yn derbyn addysg mewn ysgol – plant na fyddai wedi derbyn unrhyw addysg heblaw am y cyfle hwnnw.’

Ond sut oedd gwneud i’r arian dyfu? Yr hyn a wnaeth y gweinidog oedd rhannu stori arian pen-blwydd Jane â chynulleidfa ei eglwys un nos Sul, ac ar ddiwedd yr oedfa daeth rhai ohonynt ato a dweud: ‘Ryn ni’n cofio Jane Cross, fe hoffem ni gyfrannu.’

Y peth nesaf a ddigwyddodd oedd bod rhai o’r bobl ifanc yn chwilio am achos i’w gefnogi, ac o fewn y mis roedd y mamau ifanc yn chwilio am achos teilwng ar gyfer eu ffair haf flynyddol. Daeth y pentref i glywed am yr apêl, ac nid oedd yn hir cyn y danfonwyd arian pen-blwydd Jane Cross i’r eglwys yn Affrica – £8,000 i gyd.

Roedd yr wyth mil o bunnoedd yn ffortiwn yng ngolwg yr eglwys yn Affrica ac fe’i defnyddiwyd i adeiladu tŷ sylweddol, a chyda’r rhent o’r fenter gwireddwyd breuddwyd, a heddiw y ma’na adeilad yn Malawi sy’n cynnig addysg i ddau gant o blant difreintiedig, ac enw’r adeilad yw: Tŷ Jane Cross.

Llwyddodd Jane Cross trwy ei chyfraniad bychan hi i wneud gwahaniaeth – i newid y byd.

Mae’n hawdd meddwl bod problemau’r byd yn rhy fawr i’n cyfraniad ni wneud unrhyw wahaniaeth – ond, yn hanes arian pen-blwydd Jane Cross, fe wnaeth. Yn yr un modd medr ein rhoi ninnau at Gymorth Cristnogol wneud gwahaniaeth enfawr eleni. Gellwch gyfrannu trwy ymweld â gwefan Cymorth Cristnogol a thrwy wneud fe allwch chi a fi fynegi’n cariad a newid y byd.

Gallwch gyfrannu yn lleol fan hyn: https://www.justgiving.com/fundraising/wythnoscymorthcristnogol-penrhyn-coch-christianaidweek

Pwy all fesur lled y cariad
Sydd yn nyfnder calon Duw?
Pwy all ddirnad beth yw’r uchder
Beth yw hyd y ddyfais wiw?
Ond fe wn ar waetha’r holi
Ei fod yn fy nghofio i
Ac yn fy ngharu, ac yn fy ngharu
Fy Arglwydd cu.

Ym mha le y ceir tosturi
Fel a geir ym mynwes Duw,
Pan y rhwyga’r galon ysig,
Pan nad yw bywyd gwerth ei fyw?
Ond mi wn fod un yn gwrando
A’i fod yn fy nghlywed i,
Ac yn tosturio, ac yn tosturio
Fy Arglwydd cu.

Drwy bob storm a thywydd garw,
Drwy bob gwynfyd pur a ddaw,
Mi fydd Ef yn siwr o gynnal
A’m cysgodi rhag pob braw,
Ac wrth gerdded ’mlan i’r ’fory
Sydd â’i lwybrau eto’n ddu
Fe rydd oleuni, Fe rydd oleuni
Fy Arglwydd cu.
                                     PMT

Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

DARLLENIADAU:

Salm 145:

Dyrchafaf di, fy Nuw, a bendithiaf dy enw’n dragwyddol. Bob dydd bendithiaf di am mai graslon a thrugarog ydwyt ac yn llawn ffyddlondeb. Dy ddaioni sydd at bawb, a’th drugaredd ymhob agwedd o fywyd. Trown atat gyda llygaid gobaith gan dy fod yn darparu’n gyson ar ein cyfer – y mae dy law agored yn diwallu ein holl angen. Yr wyt yn gyfiawn yn dy holl ffyrdd ac yn ffyddlon yn dy holl weithredoedd. Yr wyt yn tynnu’n agos at bawb sy’n galw arnat ac at bawb sy’n galw arnat mewn gwirionedd. Bendithiaf dy enw’n dragwyddol.

Marc 12: 28–34; 1 Corinthiaid 13: 1–13; 1 Ioan 3: 1–3

GWEDDI:

Diolch i ti, O Dad, mai Duw cariad ydwyt Ti ac yn dy gariad dy fod yn ein tynnu ni i berthynas â’n gilydd yn un gyfeillach o gylch dy Air. Rho dy fendith arnom ac ar ein hanwyliaid, gwarchod ni a gwylia trosom. Helpa ni i gyfeirio ein cariad tuag atat mewn gair a gweithred, mewn addoliad a gwasanaeth, a thywys ni i ddwyn clod ac anrhydedd i’th enw.

Yn ein heiriolaeth ar ran ein byd, deisyfwn am dy gymorth a’th ofal cariadus i’r anghenus, y newynog, y tlawd a’r gorthrymedig. Rho dy fendith ar waith Cymorth Cristnogol a llwydda bob ymdrech i gynnal breichiau ac estyn nawdd. Cofia am bawb sy’n dioddef o effeithiau yr haint sydd ar gerdded y dyddiau hyn. Diolch am ymroddiad y rhai sy’n gweini ac yn gofalu. Derbyn ni a chadw ni yn dy gariad. Amen.

Gwyddfid