Garmon Ceiro yw Prif Olygydd newydd Golwg a Golwg360.
Bydd yn cymryd yr awenau ym mis Ebrill.
Brodor o Dole ger Aberystwyth yw Garmon, ond mae e bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Mae’n gweithio i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ac mae ganddo brofiad o ysgrifennu yn eang, gan gynnwys gwaith i’r Cymro ac i Hansh.
“Mae penodiad Garmon yn un cyffrous iawn, sy’n ein harwain at gyfnod newydd yn hanes y cwmni, cylchgrawn Golwg a gwefan Golwg360,” meddai Siân Powell, Prif Weithredwr Golwg.
“Yn hanesyddol mae un golygydd wedi gweithio ar y cylchgrawn ac un arall ar y wefan ond mae penodi Garmon i arwain y ddau yn gwneud y gorau o’r holl gyfryngau gwahanol, gan annog mwy o gydweithio gan gynnwys mwy o rannu straeon, adnoddau a delwedd.
“Fel pennaeth y cwmni ac fel darllenydd, dwi’n edrych ’mlaen at y datblygiadau.”
‘Dwi wedi darllen y cylchgrawn ers blynyddoedd maith’
“Dwi’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Brif Olygydd Golwg a Golwg360,” meddai Garmon Ceiro.
“Dwi wedi darllen y cylchgrawn ers blynyddoedd maith – o’dd e’n dod i’r tŷ pan o’n i’n blentyn; felly mae cael bod yn olygydd yn dipyn o fraint.
“Mae’n fraint hefyd cael gweithio i gyhoeddiad annibynnol yng Nghymru, lle mae lleisiau o’r fath yn brin.”
‘Creadigol a dewr’
Mae Garmon Ceiro hefyd ffyddiog y bydd Golwg yn “greadigol” ac yn “ddewr” o dan ei arweiniad fel golygydd.
“Mae’r dyddiau hyn yn gyfnod hollbwysig i Gymru,” meddai.
“Mae’n gwleidyddiaeth ni’n newid: ry’n ni wedi gadel yr Undeb Ewropeaidd, er nad ydym yn gwybod sut yn union eto, mae’r Cynulliad yn troi’n Senedd, ac mae Boris Johnson wedi addo i’w gefnogwyr y bydd yn ceisio mwy o ddylanwad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar sut y caiff arian ei wario yma yng Nghymru – bydda i a Golwg yn greadigol, yn ddewr ac yn ddiflino yn ein hymdrechion i ddwyn pobl i gyfrif.”