gan
Ohebydd Golwg360
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub o bob rhan o Ganolbarth Cymru yn parhau i geisio diffodd tân gwair rhwng Aberystwyth a Machynlleth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Lyn Conach ger Ffwrnais brynhawn dydd Sul (Mai 17).
Mae sïon yn lleol bod y tân – yr oedd yn bosib ei weld o 20 milltir i ffwrdd – wedi’i gynnau yn fwriadol ar lan y llyn.
Mae criwiau Tân o Aberystwyth, Machynlleth, Llandrindod, Llanfair Caereinion ac Aberdyfi yn bresennol, ac yn parhau i frwydro’r tân.
Lluniau diweddaraf:
Mae’r gwasanaeth tân bellach yn defnyddio hofrenydd i geisio rheoli’r tân gwair sydd yn dal i losgi ger Ffwrnais.
? Lluniau gan y ffermwr lleol Dafydd Morgan https://t.co/icmgjLzHMN pic.twitter.com/ZcbtYNcWPK
— BroAber360 (@BroAber_360) May 18, 2020