Enillydd ffotomarathon dydd Llun

Enillydd unigol olaf y ffotomarathon yn cael ei gyhoeddi

gan Deian Creunant

Ar ddiwrnod olaf ffotomarathon Pasg FfotoAber gwelwyd cannoedd o bobl eto yn cymryd rhan yn y digwyddiad unigryw.

 

Thema dydd Llun y Pasg oedd Adlewyrchiad ac mae’n bosib gweld yr amryw geisiadau drwy ymweld â sianeli Twitter, Facebook ac Instagram FfotoAber a chwilio am yr hashnod #ffotomarathonpasg.

Noson brysur arall felly i’r beirniad Aled Jenkins a’r safon yn parhau ur un mor uchel.

Y tro hwn roedd am grybwyll yn arbennig a rhoi clod i luniau Hedydd Beechey, Deborah Spencer, Giles Bennett a Robert Huw.

Ond yr enillydd am y dydd Llun, oedd Dyl Mei gyda’r llun hwn.

Bydd yn derbyn tocyn llyfr am ei ymdrechion.

Llongyfarchiadau iddo fe ac i bawb a gymerodd ran.

Y wobr olaf gaiff ei chyhoeddi fydd honno am y set orau o bedwar llun ac fe fydd adroddiad am hynny a chloriannu’r ffotomarathon yn ei chyfanrwydd yma fory.