Yn 1992 Cwmni Theatr Arad Goch oedd yn gyfrifol am gynhyrchu drama fuddugol yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd y drefn yn wahanol iawn bryd hynny: cyhoeddwyd yr enillydd tua mis Mawrth cyn yr Eisteddfod er mwyn i’r cwmni gynhyrchu’r ddrama yn barod i’w llwyfannu yn ystod wythnos yr ŵyl ym mis Awst. Roedd llawer mwy o fri a sylw (ac arian cynhyrchu) i’r Fedal Ddrama bryd hynny; byddai cyfarwyddwr neu aelod arall o’r cwmni cynhyrchu yn un o’r beirniaid, a byddai’r cwmnïau theatr Cymraeg yn cymryd eu tro i gynhyrchu’r sgript fuddugol bob blwyddyn – gan sicrhau amrywiaeth o ran arddull llwyfannu a rhoi cyfle i awduron weithio gydag amrywiaeth o gwmnïau, cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr ac artistiaid theatr.
Y ddrama fuddugol yn 1992 oedd Yn Ein Dwylo gan Pam Palmer, oedd wedi dysgu Cymraeg yn lled ddiweddar ac yn byw yn Llandybïe ar y pryd. Roedd y ddrama’n ymdrin â’r gwrthdystio yn Lithiwania a arweiniodd at ryddid ac annibyniaeth y wlad honno yn 1990. Er taw sgript go amrwd oedd Yn Ein Dwylo roedd y stori’n bwerus a’r pwnc yn bwysig – ac wrth gwrs yn berthnasol iawn i Gymru. Perfformiwyd y ddrama i gynulleidfaoedd llawn am sawl noson yn Theatr y Werin, gan fanteisio ar yr holl adnoddau yno (yn wahanol i’r ddarpariaeth theatr ar y Maes erbyn hyn).
Y Cyfarwyddwr oedd Jeremy Turner.
Cynlluniwyd y set a’r gwisgoedd gan Steve Mattison.
Yr actorion oedd: Mari Rhian Owen, Siôr Llyfni, Mair Tomos Ifans, Rhys Bleddyn, Huw Garmon, Siân Summers, Carys Gwilym, Idris Morris Jones ac Iestyn Griffiths.
Yn ogystal â llwyfannu’r ddrama fuddugol, bu Jeremy yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc i lwyfannu darn o theatr ‘gorfforol delynegol’ gan gyfuno barddoniaeth a gwaith symud haniaethol – rhywbeth newydd i Theatr y Maes yn 1992 – ac yn eithaf prin o hyd!