Os yr ydych wedi cerdded heibio’r Bandstand yn Aberystwyth yn ystod yr wythnosau diwethaf yna mae’n bosibl eich bod wedi gweld arddangosfa Archifdy Ceredigion ar fapiau ar baneli gwydr yr adeilad, mi fyddant i fyny tan o leiaf ddiwedd mis Ionawr 2021. Beth am fynd am dro ar hyd y prom ar ddydd Gŵyl Steffan ac oedi am feitin i’w darllen, ond cofiwch gadw’ch pellter wrth eraill wrth edrych.
Yn sgil cyfyngiadau COFID eleni roedd angen bod yn ddyfeisgar er mwyn hyrwyddo’n casgliadau a’n gwaith mewn modd creadigol a diogel i ddigwyddiad Archwilio Eich Archif. Byddai’n arlwy arferol o sgyrsiau, arddangosfa a hyd yn oed gigs yn y bandstand ddim yn dderbyniol yn yr hinsawdd bresennol ond efallai bod gobaith erbyn Archwilio 2021!
Felly arddangosfa weledol ynghyd â llyfryn o’r mapiau i’w ddosbarthu’n ddigidol ac ar ffurf brintiedig oedd ein hymdrech ni i Archwilio Eich Archif eleni wedi’i selio ar gasgliad Mapiau Cynnar Printiedig Sir Aberteifi 1578-1885: https://www.archifdy-ceredigion.org.uk/sched/acm00intro.html
Gellir lawr lwytho copi digidol o’r llyfryn ‘Edrychwch yn ofalus: Arolwg o Sir Aberteifi’ ar y ddolen: https://www.archifdy-ceredigion.org.uk/uploads/edrychwch_yn_ofalus__look_closely.pdf
a hefyd ar ffurf brintiedig (nifer cyfyngedig yn unig) i’w casglu o Lyfrgell Ceredigion, Aberystwyth neu drwy e-bostio’r archifdy: archives@ceredigion.gov.uk i’w dosbarthu trwy’r post. Bydd y llyfryn yn caniatáu i bobl fynd a’r arddangosfa adref a phori’r cynnwys fel ag y maent eisiau.
Un o brif amcanion yr arddangosfa a’r llyfryn yw ysgogi pobl i feddwl am ei milltir sgwâr yn fanylach ac i geisio eu hannog ‘i wneud map i ni’ o’u hardal a’i ddanfon mewn i’r Archifdy i greu archif i goffáu ein cymunedau yng Ngheredigion yn 2020. Mae hyn wedi’i ysbrydoli gan fod pob un o’r mapiau ar y panel hwn wedi’u darlunio â llaw neu wedi eu gwneud â llaw. Anfonwch eich mapiau at archives@ceredigion.gov.uk neu drwy’r post at Archifdy Ceredigion, Hen Neuadd y Dref, Morfa Mawr, Aberystwyth SY23 2EB.
Byddem wrth ein bodd pe baech yn gwneud mapiau sy’n adlewyrchu eich profiad eich hun a’u hanfon atom. Gallant gael eu gwneud drwy unrhyw gyfrwng, a gellir eu hanfon naill ai drwy’r post neu’n electronig. Gellir tynnu llun, paentio neu greu llun digidol. Efallai y byddwch yn dewis gwneud ffilm yn lle, neu fap sain!
Beth allai fod ar eich map?
Gallwch fapio eich hoff lwybr cerdded, neu’r byd bach lleol o’ch cwmpas yn ystod y cyfnod clo (dan do neu y tu allan!) Efallai yr hoffech chi gynnwys adeiladau diddorol, y bywyd gwyllt a welsoch chi mewn lonydd a gwrychoedd, coedwigoedd a chaeau, efallai cornel yn eich tref neu bentref lle cawsoch chi sgwrs hyfryd gyda ffrind neu ddieithryn (gan gadw pellter cymdeithasol!)
Nid oes rhaid i’ch map ddangos lleoliad go iawn hyd yn oed; gall fod yn fap o ynys bellennig hardd yr ydych chi wedi ei dychmygu ar ddiwrnod llwm i’ch cadw eich hun yn hapus ac yn eich iawn bwyll!
Does dim ots os nad yw eich map yn gampwaith – er croesawir campweithiau hefyd! Mae mapiau yn ymwneud â syniadau cymaint ag unrhyw beth arall, a byddem wrth ein bodd yn rhannu eich syniadau.
I gael ysbrydoliaeth neu ddysgu mwy am Archifdy Ceredigion mae croeso i chi edrych ar ein safle we: https://www.archifdy-ceredigion.org.uk/index.php neu pori trwy’n sianeli digidol, mae dolenni cyswllt i gael ar ein tudalen ‘Sut i ddod o hyd i ni ar-lein’: https://www.archifdy-ceredigion.org.uk/socnet.php?lang=cy
Er nad oes modd gweld y mapiau gwreiddiol ar hyn o bryd (rydym ar gau oherwydd COFID) plîs manteisiwch ar y cyfle i’w edmygu mewn print neu’n ddigidol, maent yn werth eu gweld. Galwch draw i’r bandstand, mynnwch gopi o’r llyfryn, gadwch iddynt eich ysbrydoli ac ewch ati i greu!