Pwy sy’n dwad dros y bryn?

Mae Santa ar grwydr eleni eto er fod pethau’n gorfod cael ei gwneud ychydig yn wahanol i’r arfer. 

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Pwy feddylie Dolig diwethaf, y byddai Santa yn gaeth i reoliadau Covid 19 yn 2020. Ei ymweliadau arferol ag ysgolion, neuaddau pentref, siopau ayyb wedi eu rhoi ar stop. I blant, mae gweld Santa yn yr wythnosau sy’n arwain lan at y diwrnod mawr yn brofiad cyffrous, llawn hwyl a fydd yn rhoi gwen ar wyneb y mwyafrif! (er fod ambell un ofan y dyn ei hun!)

Mae’n braf gweld fod cymunedau ar draws Cymru yn addasu (gair pwysig yn 2020) gan ddod o hyd i ffyrdd o groesawu Santa yn ddiogel i’r pentref. Cadwch olwg allan rhag ofn fod rhywbeth yn cael ei drefnu yn eich pentref chi.

Daeth Santa i Landdeiniol a chytuno i droi mlan y goleuadau ar y goeden. Y goeden Nadolig gyntaf erioed i’w gosod yng nghanol y pentref. Oes wir, mae ambell draddodiad newydd yn dechrau hyd yn oed yng nghanol pandemig.
Derbyniais neges gan un riant yn dweud fod y plant yn egseited bost i weld Santa. Doedden nhw ddim yn meddwl y bysen nhw wedi cael cyfle i’w weld eleni. A dyna lle roedd y plant, tu allan y tŷ, yn wen o glust i glust.

Diolch Santa.