Mae dros 60 o fusnesau lleol yn Aberystwyth yn cefnogi ymgyrch newydd Refill Aberystwyth sydd yn annog pobol i ddefnyddio llai o boteli plastig ac i yfed mwy o ddŵr tap.
Mae Refill Aberystwyth sydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr o’r grŵp Aberystwyth di blastig yn perthyn i gynllun ehangach ar draws gwledydd Prydain i geisio lleihau’r defnydd o blastig.
Diolchodd Richard Steele sydd yn ymwneud â’r cynllun i’r busnesau lleol am eu parodrwydd i gydweithio.
“I ddechrau roedd gwirfoddolwyr fel fi yn mynd o gwmpas yn siarad â busnesau yn y dref i’w hannog i gymryd rhan,” meddai.
“Ond erbyn hyn mae busnesau lleol wedi bod yn cysylltu â ni, sydd yn wych i weld.”
“Bydd unrhyw fusnes sydd ynghlwm â’r cynllun â sticer ail lenwi yn ffenest y siop neu gaffi, a bydd modd i’r cyhoedd fynd yno i ail lenwi eu poteli dŵr.”
Ffynhonnau dŵr
Yn ogystal â’r busnesau lleol mae dwy ffynnon ddŵr wedi eu gosod ar y promenâd er mwyn lleddfu syched cerddwyr a rhedwyr ar lan y môr.
“Rydym yn ddiolchgar iawn hefyd i Gyngor y Dref am eu cefnogaeth. Un o’r pethau olaf i’r cyngor ei wneud cyn i gyfyngiadau’r coronafeirws gael ei rhoi mewn lle oedd gosod y ffynhonnau dŵr ar y promenâd.
Ychwanegodd Richard Steele, “rydym yn cynghori pobol i fod yn gall wrth ddefnyddio’r ffynhonnau dŵr, a dilyn cyngor y Llywodraeth am olchi dwylo i leihau ymlediad y coronafeirws.
“Mae hefyd modd defnyddio eich pengliniau i ddefnyddio’r ffynhonnau dŵr.”
- Anwybyddu
- Dysgu
- Nôl
- Nesaf