“Does dim pwynt i ni agor – rhyw hanner agor fydde fe”

Ymateb Sara Beechey, perchennog Yr Hen Lew Du i’r cyfyngiadau newydd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Tafarn Y Llew Du ar Heol y Bont

Mae Sara Beechey, perchennog Yr Hen Lew Du wedi dweud nad oes pwynt agor y dafarn heb allu gwerthu alcohol.

Daw hynny yn sgil cynlluniau Llywodraeth Cymru i gau tafarndai, bariau, bwytai a chaffis am chwech yr hwyr a’u hatal rhag gwerthu alcohol i’w yfed yn y fangre.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bydd y cyfyngiadau newydd yn dod i rym o 6yh ddydd Gwener, Rhagfyr 4, i leihau ymlediad y coronafeirws unwaith eto cyn cyfnod y Nadolig.

Dywedodd Sara Beechey bod y costau rhedeg yn gorlethu’r manteision o agor heb gwrw.

“Agor a chau” drwy’r adeg yn rhwystredig

“Does dim pwynt i ni agor – rhyw hanner agor fydde fe,” meddai’r perchennog Sara Beechey.

“I fod yn onest, y peth sydd fwyaf siomedig, yw’r busnes agor a chau ‘ma drwy’r adeg.

“Dwi’n ffeindio hynny’n anodd iawn… wrth gwrs y’ch chi’n archebu stoc… bwyd a diod… i agor am gyfnod ac wedyn chi’n gorfod cau lawr a chi ddim yn guaranteed o allu gwerthu neu gael gwared ar bopeth – mae hynny’n anodd ac yn gostus ofnadwy.

“Hefyd, mae’n rhaid meddwl am y staff,” meddai, “chi’n gofyn iddyn nhw fod ar gael i chi am gyfnod penodol ac wedyn chi’n gorfod gadael nhw i lawr.”

Dywedodd hefyd nad yw ychydig ddyddiau o rybudd yn ddigon o amser i allu blaengynllunio ac atal colledion ariannol pellach.

Bydd y cyfyngiadau newydd yn cael eu hadolygu ar Ragfyr 17, a phob tair wythnos wedi hynny.

Mae modd darllen mwy o ymatebion fan hyn.