Disgyblion Ysgol Rhydypennau’n Creu Bynting Codi Calon

Disgyblion Ysgol Gymunedol Rhydypennau, Bow Street, yn llunio bynting lliwgar i godi calon y gymuned

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Bynting Codi Calon Ysgol Rhydypennau

Gyda’r ysgol ar fin cau’n gynnar am y Nadolig ac yn paratoi i symud y dysgu ar-lein ar gyfer wythnos ola’r tymor, mae disgyblion Ysgol Gymunedol Rhydypennau, ym Mhen-y-garn, wedi bod yn prysur ddylunio bynting go arbennig er mwyn addurno blaen yr ysgol.

Dywedodd y Pennaeth, Peter Leggett: “Mae’r tymor hwn wedi cyflwyno heriau anghyfarwydd i ni i gyd, o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. Prin fod yna unrhyw ddinas na thref ledled y byd wedi osgoi effaith y feirws ’ma, ac mae hynny’n cynnwys ein cornel bach ni yma yn ardal Tirymynach. Mae pob un ohonom wedi gorfod addasu’n ffordd o fyw, gan leihau ein cysylltiadau â theulu a phobl y tu allan i’n cartrefi. Mae hyn, wrth reswm, yn digalonni llawer yn ein cymunedau.

“Trwy drafodaeth rhwng y plant a’r staff, cafwyd y syniad i fynd ati i wneud rhywbeth i godi calon y gymuned. Penderfynwyd creu bynting Nadolig i’w osod ar ffens yr ysgol, gyda negeseuon ‘Codi Calon’ a dymuno Nadolig Llawen i bawb yn yr ardal. Rhaid cyfaddef, mae negeseuon a dyluniadau’r plant yn drawiadol iawn, a heb os, wedi cyffwrdd â chalonnau’r trigolion.

“Rydym wedi derbyn nifer o negeseuon ’nôl gan aelodau’r gymuned yn datgan eu diolch i’r plant am eu gwaith ac am feddwl am bobl eraill yn ystod y cyfnod go ddiflas ’ma. Mae rhai hyd yn oed wedi gyrru bocsys losin i rannu gyda’r plant er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad. Fel ysgol gymunedol, ’den ni’n falch iawn o fedru rhannu ychydig bach o ‘ysbryd yr ŵyl’ gyda’n cymdogion.

Ar ran yr ysgol, dymunaf Nadolig Llawen iawn i chi i gyd.”