Y Ddolen – Rhifyn 458 – Ebrill 2020

Dyma le mae’r Ddolen ar werth, neu gopi PDF (neu sain) os na allwch ei gael yn y ffordd arferol.

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)

Rydym wedi argraffu 400 copi o’r DDOLEN y mis hwn – mae copïau wedi cyrraedd:

  • Spar Penparcau
  • Siop Llanilar
  • Siop Llanfarian
  • Siop Blaenplwyf
  • Siop Llanrhystud

Mae copïau hefyd ar ei ffordd i:

  • Ponterwyd
  • Mynach
  • Cwmystwyth
  • Caron Stores, Tregaron

Teimlwn fod y papur bro yn wasanaeth pwysig yn ystod y cyfnod hynod ryfedd hwn a gobeithio daw ag ychydig o gysur i’r rhai hynny sydd yn gaeth i’w cartrefi ar hyn o bryd. Os ydych chi’n gwybod am rywun fyse’n gwerthfawrogi copi ond na fydd yn medru ei gasglu o siop, cysylltwch ag Eirwyn ar 01974 202287 i drefnu fod copi yn cael ei ddanfon allan drwy’r post. Petai’n well gennych dderbyn copi PDF yn unig (am ddim), mae linc isod.

Yn ystod yr argyfwng presennol sylweddolwn na fydd llawer o ddarllenwyr Y Ddolen yn gallu ei brynu fel arfer, felly cewch gopi ar lein yma ar ffurf PDF (am ddim). Hefyd mae ffeiliau sain o ddetholiad o’r papur ar gael ar waelod y dudalen hon.

GWELD RHIFYN EBRILL 2020

Clawr Y Ddolen

Clywed rhifyn Ebrill 2020

Gallwch chwarae’r ffeiliau sain hyn drwy glicio arnynt.

Rhan 1:

Rhan 2:

Rhan 3:

Rhan 4:

Os ydych wedi’ch cofrestru’n ddall, gallwch dderbyn Y Ddolen ar ffon USB wedi’i phostio atoch bob mis (am ddim – tebyg i Bapur Sain Ceredigion). Anfonwch ebost atom: y.ddolen@gmail.com

Dweud eich dweud