Nid yw Cymru ar Werth

Rhan o rali aml-leoliad Cymdeithas yr Iaith yn Aberaeron yn tynnu sylw Cynghorwyr at y broblem ynghylch gwerthiant tai haf yng Ngheredigion.

Megan Turner
gan Megan Turner

Yn dilyn taith gerdded o Lanrhystud i Aberaeron, daeth rhai o gefnogwyr yr ymgyrch yn erbyn gor-werthiant tai haf yng Nghymru at ei gilydd wrth swyddfeydd Cyngor Ceredigion yn Aberaeron ddydd Sadwrn y 21ain o Dachwedd, er mwyn datgan wrth y Cyngor Sir a’r Llywodraeth “Nid yw Cymru ar Werth”. Roedd y rali yn rhan o ddigwyddiad aml-leoliad Cymdeithas yr Iaith, gyda digwyddiadau tebyg yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod yn Llanberis a Chaerfyrddin.